Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi y bydd y grŵp cyntaf o ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd Prydain yn ystod y dyddiau nesaf.
Byddan nhw’n cyrraedd fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ail-leoli 20,000 o ffoaduriaid dros y pedair blynedd a hanner nesaf.
Mae’r Llywodraeth wedi cytuno cynnig lloches i’r ffoaduriaid o wersylloedd mewn gwledydd ar y ffin â Syria, ond bydd Prydain ddim yn gwneud yr un peth i’r miloedd ar filoedd o bobl sydd wedi cyrraedd Ewrop yn barod.
Disgwyl am ragor dros yr wythnosau nesaf
Dywedodd Theresa May, fod y Llywodraeth yn “gweithio’n galed” i gynllunio ar gyfer mwy o bobl yn yr wythnosau nesaf.
“Wrth groesawu ffoaduriaid bregus i’r DU, mae’n hanfodol bod gennym y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, dyna maen nhw’n eu haeddu,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin.
Wrth gyfeirio at faint a phryd bydd disgwyl i bobl gyrraedd, doedd Theresa May heb gadarnhau manylion ond dywedodd bod angen ‘cynllunio manwl’ i sicrhau bod y llywodraeth yn gweithredu’r cynllun yn gywir.
“Byddaf i a’r Gweinidog dros ffoaduriaid o Syria, Richard Harrington, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Dŷ’r Cyffredin ar y pwynt hwnnw.
“Ond rwy’n falch i ddweud wrth y Tŷ ein bod ni’n edrych ymlaen at groesawu’r grŵp cyntaf o bobl yn y diwrnodau nesaf.”