Dynes a'i phlentyn ar y ffin rhwng Awstria a'r Almaen
Mae heddlu yn Hwngari wedi defnyddio nwy dagrau i dawelu cannoedd o ffoaduriaid oedd wedi torri trwy ffens ar y ffin gyda Serbia.

Roedd y dorf wedi dechrau taflu poteli plastig at yr heddlu.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad, ond cafodd nifer o bobol eu gweld â dagrau yn eu llygaid.

Roedd y dorf wedi mynd i mewn i Hwngari o dref Horgos yn Serbia.

Croatia

Yn y cyfamser mae’r grwpiau cyntaf o ffoaduriaid wedi dechrau cyrraedd Croatia wrth iddyn nhw edrych am ffyrdd newydd o gyrraedd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Serbia wedi dweud na allan nhw ymdopi â’r nifer cynyddol o ffoaduriaid sydd yn y wlad yn ceisio cael mynediad i Ewrop.

Ers hynny, mae tua 80 o bobl wedi croesi i ddwyrain Croatia ar ôl mynd ar fws i dref Sid ar y ffin â Serbia, yn dilyn taith drwy’r nos o’r ffin ddeheuol â Macedonia.

Mae’r heddlu a gweithwyr cymorth yn aros i’r ffoaduriaid yng Nghroatia, lle maen nhw’n cael eu cofrestru. Mae’r wasg leol yn dweud bod rhai ffoaduriaid wedi ceisio croesi i Groatia drwy gaeau gerllaw er mwyn osgoi cofrestru.

Mae swyddogion yn dweud eu bod yn disgwyl rhagor o fysiau i gyrraedd Sid.

Erbyn hyn, mae’r heddlu yn Hwngari wedi arestio o leiaf 174 o ffoaduriaid am geisio croesi’r ffin yn anghyfreithlon neu am wneud difrod i’r ffens.