Hefin Jones sydd yn bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu…

Costau Aelodau Seneddol a budd-dal yr anabl

Mae’n llywodraeth go-iawn bellach yn cyhoeddi’r arian mae’r Aelodau Seneddol yn ei hawlio o bwrs y wlad bob blwyddyn wedi i nifer o’u plith gael eu dal yn plygu’r gwir yn y blynyddoedd diweddar. A darllen difyr ydyw. Daeth costau teithio Guto Bebb AS am y flwyddyn ddiwethaf i £17,242.95, ac nid yw’r ffigwr clodwiw yn cynnwys ei ddau drip i Israel gan fod y Conservative Friends o’r wlad benodol honno wedi talu popeth i yntau a’i wraig . Er, Alun Cairns yw’n haelod mwyaf gweithgar gyda chostau ei gynnal yntau yn cyrraedd £191,333.35. Amherthnasol fyddai nodi i’r ddau bleidleisio i dorri’r budd-dal anabledd o £30 wythnos yma.

Tancs ym Merthyr

A phrysur yw Alun Cairns. Yn ôl y sôn, yn Yr Aifft oedd y safle milwrol mwyaf a welwyd erioed. Nid yr Eifftiaid oedd yn ei redeg wrth gwrs, na’r Rhufeiniaid a redai’r sioe yno am amser maith, ond y Saeson. Ond wedi anerchiad Alun Cairns i ddathlu’r ffatri tanciau newydd swish i’r British Army ym Merthyr efallai caiff Cymru gyfan ei hystyried i’r fraint fawr honno’n ddigon buan.

Trên £15 biliwn

Excellent news for Welsh business commuters‘ trydarodd Stephen Crabb, neu rywun yn smalio bod yn Stephen, o’r Swyddfa Gymreig, am y prosiect ‘gyrru trên ar draws Llundain mewn ugain munud’ gwerth £15 biliwn gyda phawb yn y Deyrnas hynod Unedig yn talu am ei fuddiannau, felly dim rhyfedd i Stephen nodi’r newyddion da fydd i bob Cymro a Chymraes entrepreuneriol benbaladr.

Diffygion Plaid Cymru

Ers i Lee Waters adael ei swydd amhleidiol a diduedd fel cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig i fod yn ymgeisydd Llafur Llanelli, mae wedi agor ei adenydd. Dim ond rhyw draean o drigolion etholaeth Llanelli sy’n siarad Cymraeg felly nid yw wedi poetshio gormod wrth ymosod ar ‘obsesiwn’ Plaid Cymru hefo’r iaith. Nid yw’n ymhelaethu, ond mae’n un o ddau obsesiwn, medd Lee, sydd gan y Blaid Bach i esbonio pam nad ydyn nhw wedi llwyddo i’r un graddau a’r  SNP. Y llall yw annibyniaeth. Ac os oes un peth wnewch chi fyth glywed yr SNP yn grybwyll, wel annibyniaeth yw hwnnw. Bydd Lee, os curith, yn siŵr o helpu i lenwi’r gwagle sylweddol fydd ar ôl Edwina.

Dwyieithrwydd yn drysu Gwyddel

A sôn am obsesiwn iaith, mae’r Gwyddelod wrthi unwaith eto’n stwffio eu rwdlian annealladwy ym mhob man, fel cwyna Timothy Gartson, y dirprwy faer ac aelod o’r Traditional Unionist Party. Mae wedi gweld y gair Uisce, Gwyddeleg am ddŵr, wrth edrych lawr ar y stryd yn Ballymena ac mae’n mynnu fod y cyngor yn cyfnewid y gorchudd metel tramor ar unwaith. Mae’r gair ‘Water‘ uwch ei ben, ond yr egwyddor sy’n cyfrif.

Nyth gwiberod

Dirgelwch wrth i The Sun gyhoeddi sylwadau gan ‘swyddog’ o’r Blaid Lafur wnaeth alw Abertawe yn ‘nest of vipers’ a ‘a little place in Wales’. Mae’r Blaid Lafur yn gwadu eu bod wedi dweud y fath beth, a mi fedren fod yn saff mai nhw sy’n dweud y gwir, gan nad yw The Sun i’w trystio. Yn wahanol i’r Blaid Lafur.

Mab yn saethu mam

My right to protect my child with my gun trumps your fear of my gun‘ gwe-gymdeithasodd Jamie Gilt fis yn ôl, a thrist oedd un ac oll i glywed fod ei mab pedair oed wedi gafael yn y gwn yn ei char a’i saethu yn ei chefn. Goroesi wnaeth Jamie, i brofi Darwin yn gywir eto. ‘We’re satisfied that this is not a criminal shooting‘ medd Joseph Wells, llefarydd Sheriff Sir Putman, Florida. Os ti’n dweud, Joseph.

Our language

Roedd rhyw Dr Alice Roberts yn siarad ar y rhaglen Coast ar y BBC nos Iau yn ôl llygad dyst ac fe esboniodd i’r gwylwyr oll drwy ein Teyrnas o mor Unedig fel hyn: “In the 5th Century the Anglo Saxons came to this island and gave us our language“.

Cymru v Cyfeillion Clos

Sut i hyrwyddo Lloegr v Cymru heb roi hwb i’r syniad nad ydym yr union un bobl, cenedl, diwylliant a gwlad oll yn gytûn? Dyna ofynnodd y BBC wrth eu hunain ar gyfnod o etholiadau.

Daeth un aelod disglair o staff BBC Wales Sport a’r ansoddair perffaith. ‘England v Wales: the closest of rivalries’.