Mae’r actor Russell Crowe wedi helpu i gario arch ei gefnder a chyn-gapten tîm criced Seland Newydd, Martin Crowe.

Nid oedd disgwyl i seren y ffilm Gladiator fod yn rhan o’r gwasanaeth angladdol yng Nghadeirlan Holy Trinity Auckland, wedi iddo fynychu gwasanaeth coffa yn nyddiau olaf bywyd Martin Crowe.

Ar ei gyfrif trydar yn dilyn yr angladd, dywed Russell Crowe bod dawns yr haka, yn cael ei pherfformio gan fyfyrwyr ysgol Auckland Grammar, wedi “ysgwyd y ddaear”.

Fe chwaraeodd Martin Crowe 77 prawf i Seland Newydd dros gyfnod o 13 o flynyddoedd.

Sgoriodd mwy na 5,444 o rediadau a’i sgôr uchaf oedd 299.

Ystyrir mai ef yw’r batiwr criced gorau erioed i chwarae dros Seland Newydd.

Bu’n brwydro canser ers 2012.