Y sbwriel dan sylw ger safle chwalu carthion Llandysul (Llun: Cyngor Sir Gaerfyrddin)
Mae dyn 27 oed sydd heb gartref sefydlog wedi cael dirwy o £500 am daflu sbwriel yn anghyfreithlon yn Llandysul.
Plediodd Nicholas Aron Lloyd, 27 oed yn euog drwy lythyr i drosedd yn groes i Adran 33 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Clywodd Llys Ynadon Caerfyrddin fod uned gorfodi materion amgylcheddol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi derbyn cwyn ym mis Medi y llynedd, am wastraff cartref a oedd wedi’i waredu’n anghyfreithlon wrth y fynedfa i Weithfeydd Dŵr Cymru ar gyfer Chwalu Carthion yn Llandysul.
Aeth swyddogion i’r safle a gwelwyd bod llawer o wastraff cartref gan gynnwys teledu wedi’i waredu yno. Llwyddodd y swyddogion i olrhain y gwastraff i eiddo rhent cyfagos.
Brawd y tenant ar fai
Aeth swyddogion y cyngor ati i gysylltu â’r landlord a esboniodd fod gwastraff cartref wedi cael ei adael yn yr ardd gan denant blaenorol. Fodd bynnag, roedd y landlord wedi cysylltu â’r tenant i waredu’r gwastraff er mwyn iddi gael ei blaendal yn ôl.
Aeth y swyddogion i ymweld â’r tenant yn ei chyfeiriad newydd a dangoswyd llun iddi o’r gwastraff. Cadarnhaodd mai ei gwastraff hi oedd wedi’i adael yn yr ardd yn ei chartref blaenorol ac mai ei brawd, Nicholas Aaron Lloyd, fu’n gyfrifol am ei waredu.
“Tipio anghyfreithlon yn anharddu’r dirwedd”
Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin dros Ddiogelu’r Cyhoedd a’r Amgylchedd: “Rydym yn ystyried y troseddau hyn yn ddifrifol iawn. Mae tipio anghyfreithlon yn anharddu’r dirwedd ac yn niweidiol i’r amgylchedd ac i anifeiliaid.
“Ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn erlyn y bobl sy’n gyfrifol.”