Mae’r dyn wnaeth sefydlu cwmni tafarndai JD Wetherspoon am bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm fis Mehefin.
Yn ôl Tim Martin, Cadeirydd y cwmni erbyn hyn, fe ddylai “yr holl brif bwerau aros yn barhaol yn y senedd-dai cenedlaethol gyda phleidlais rydd i bawb, gwasg rydd, llysoedd annibynnol, rhyddid barn a chrefyddol, a gyda’r eglwys yn chwarae rhan symbolaidd yn y cyfansoddiad”.