Prifysgol Rhydychen
Mae cylchgrawn dylanwadol y Times Higher Education wedi cyhoeddi rhestr o’r hyn maen nhw’n barnu yw’r 200 o brifysgolion gorau yn Ewrop.
Prifysgol Rhydychen sydd ar y brig a Chaergrawnt yn ail, a drwyddi draw mae 46 o brifysgolion gwledydd Prydain ar y rhestr.
Mae Prifysgol Caeredin yn y seithfed safle, a’r uchaf o Gymru yw Caerdydd yn safle rhif 92.
Yna daw Prifysgol Bangor yn 151, Aberystwyth yn 161 ac Abertawe yn safle 193.
Mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi croesawu’r canfyddiadau.
“Mae presenoldeb nifer mor fawr o brifysgolion o ansawdd uchel o ‘r DU ar restr y Times Higher o’r prifysgolion sy’n arwain yn Ewrop yn amlygu’r parch uchel sydd i’n brifysgolion o fewn y sector addysg uwch yn Ewrop,” meddai’r Athro John G Hughes.
‘Camp fawr’ bod ar y rhestr
Yn ôl Phil Baty, golygydd y THE World University Rankings:
“Mae cynghrair newydd y Times Higher Education European University Rankings yn seiliedig ar yr un 13 dangosydd perfformiad cadarn a ddefnyddiwyd i greu Cynghrair Prifysgolion y Byd, ac felly mae’n gamp fawr gallu bod ar y rhestr glodfawr newydd hon o 200.
“Roedd yn rhaid i bob un o’r 200 Prifysgol ddangos rhagoriaeth ar draws ystod o fesuriadau, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu, ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a gogwydd rhyngwladol, gan sefyll allan o blith y miloedd o Brifysgolion ar draws Ewrop nad oeddent yn cyrraedd y safon.”