Kirsty Williams
Mae gwybodaeth ddaeth i’r fei drwy gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan y Lib Dems, yn dangos bod 11,000 o bobol wedi gorfod aros am fwy na 10 diwrnod am apwyntiad gydag arbenigwr, a hynny ers 2013.

Yn ôl Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, mae’r sefyllfa yn “ddychrynllyd a siomedig”.

Ond fe ddywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod mwy o bobl yn goroesi canser y fron, er gwaetha’r ffaith bod mwy yn cael eu canfod gyda’r cyflwr.

Ym mis Mehefin 2013 fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ei bod yn “allwedol” bod cleifion yn cael eu hapwyntiad cyntaf gydag arbenigwr o fewn 10 diwrnod.