Mae cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn pleidleisio dros adael Ewrop yn y refferendwm ym mis Mehefin.
Mae safbwynt Emrys Roberts yn hollol groes i bolisi’r Blaid o gefnogi’r Undeb Ewropeaidd i’r carn a chlodfori’r biliynau o bunnau o arian Amcan Un sy’n dod i Gymru o goffrau’r Undeb.
Mewn blog ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae Emrys Robertsyn dadlau fod y penderfyniad i adael yr Undeb yn un amlwg i bobol sy’n poeni am ddyfodol cymunedau lleol a chenedlaethol.
Roedd Emrys Roberts yn Ysgrifennydd Cyffredinol i’r Blaid rhwng 1960 ac 1964 a chafodd ei ethol yn Ddirprwy Lywydd rhwng 1979 ac 1981.
Yr Undeb heb helpu’r diwydiant dur
Yn ei ddadl yn erbyn aros o fewn yr undeb yn Ewrop, mae nodi Emrys Roberts yn codi pryderon bod aelodaeth gwledydd Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn “ein cadw rhag gweithredu’n effeithiol” ar ddiogelu’r diwydiant dur.
Hefyd mae’n dadlau ei bod yn “anodd deall” pam na fyddai gwledydd Prydain yn gallu masnachu yn Ewrop os na fydd yn aelod o’r undeb, o ystyried bod “gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn gallu masnachu’n effeithiol â gwledydd yn yr Uneb Ewropeaidd.”
Mae’n anghytuno fod gwledydd bach fel Cymru yn cael eu “diogelu’n well” fel aelod o Ewrop, gan ddweud nad yw’r ddadl honno yn “dal dŵr” gyda’r gwledydd mwyaf dylanwadol yn yr EU.
Yr Undeb heb helpu Gwlad Groeg
Yn ôl Emrys Roberts mae buddiannau busnesau mawr o hyd wedi bod “o’r pwys mwyaf” i’r Undeb Ewropeaidd, a hynny waeth beth fo’r effaith ar gymunedau lleol.
Mae’n cyhuddo’r Undeb o gymeradwyo mesurau llymder i “ddiogelu buddiannau ariannol heb boeni dim am eu heffaith ar bobol gyffredin a’u cymunedau,” a bod sefyllfa Gwlad Groeg yn “dystiolaeth” o hyn.
Nid yw’n cytuno chwaith fod Ewrop wedi “atal unrhyw ryfeloedd”, gan ddweud y gallai cydweithrediad yr undeb â NATO achosi rhagor o aflonyddwch gwleidyddol ac o bosib, rhyfeloedd.
Plaid Cymru am aros yn Ewrop
Mae Plaid Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod “llawer iawn” am yr Undeb Ewropeaidd yr hoffen nhw newid ond bod Cymru’n elwa o fod yn rhan ohoni, ac mai “dim ond o’r tu fewn” y gall unrhyw newid gael ei wneud.