Fe fydd grŵp o ymgyrchwyr yn cynnal protest ger pont Menai, Ynys Môn, y bore yma i nodi pum mlynedd ers trychineb niwclear Fukushima.

Mae mudiad PAWB, Pobol Atal Wylfa B, wedi trefnu i ymgynnull am wyth o’r gloch, yn ystod yr awr draffig brysur  i dynnu sylw pobol i’r “anhrefn” a all fod pe bai rhywbeth tebyg i Fukushima yn digwydd i orsaf niwclear Wylfa Newydd. Nid yw’r atomfa honno wedi ei hadeiladu hyd yma.

Er y pryderon mae’r AS lleol, Albert Owen, wedi dweud wrth golwg360 nad oes pryderon am ddiogelwch ynni niwclear ar Ynys Môn.

Galw am roi stop ar gynlluniau niwclear Môn

Mae mudiad PAWB yn pwyso ar gwmni Hitachi a’i is-gwmni Horizon i roi’r gorau i’r cynllun i godi Wylfa Newydd.

“Pam ddylem ni yng ngogledd orllewin Cymru groesawu adweithyddion tebyg i rai Fukushima na fydd byth yn cael eu codi eto gan Hitachi yn Siapan?” meddai’r mudiad mewn datganiad.

Yn dilyn y ffrwydrad yn atomfa Fukushima wnaeth  ryddhau ymbelydredd peryglus yn yr aer, mae dros 120,000 o bobol methu mynd yn ôl i’w cartrefi o hyd.

Digwyddodd y ffrwydrad yn dilyn daeargryn a tsunami yn yr ardal yn Siapan, gyda’r trychineb yn lladd 19,000 o bobol.

‘Dim pryderon’ yn ôl AS Môn

Er hyn, dywedodd Albert Owen AS Ynys Môn wrth golwg360 nad oes achos i drigolion Môn boeni am drychineb tebyg ar yr ynys.

“Yn dilyn canlyniadau damwain Fukushima pum mlynedd yn ôl, cynhaliwyd ymchwiliad gan bennaeth Swyddfa Rheoleiddio Niwclear, Mike Weightman i mewn i oblygiadau’r ddamwain ar orsafoedd niwclear Prydain,” meddai Albert Owen.

“Dangosodd yr adroddiad nad oedd yna bryderon sylfaenol am ddiogelwch gorsafoedd niwclear Prydain gan gynghori parhad mewn sicrhau gwelliannau ar draws y rhwydwaith.

“Byddai gweithredu yn ôl argymhellion Mr Weightman yn sicrhau byddai gorsafoedd niwclear Prydain yn gadarn a diogel.”

Sylwadau “trahaus”

Mae Dylan Morgan o fudiad PAWB wedi beirniadu sylwadau Albert Owen gan ddweud bod yr Aelod Seneddol yn “anwybyddu” problemau diweddar yn y diwydiant ynni niwclear ym Mhrydain ac yn Siapan.

“Mae’n drahaus iawn i awgrymu bod ddim pryderon achos tua mis yn ôl, roedd Albert Owen yn cadeirio cyfarfod gyda’r Grid Cenedlaethol yn bresennol, ac mi gafodd dipyn o sioc pan gododd gwraig o Borthaethwy ac ymosod yn glinigol iawn ar yr holl gynlluniau niwclear yma’n Hinkley a Wylfa,” meddai.

“Ac mi gafodd gymeradwyaeth ar y noson, felly os nad yw Albert Owen yn sylweddoli bod ‘na wrthwynebiad a phryder am ddiogelwch, mae e’n twyllo eu hunain.”