Hefin Jones sy’n dychwelyd i fwrw ei olwg unigryw ar rai o’r straeon sydd wedi bod yn corddi’r dyfroedd yn ddiweddar …
Dialedd na welwyd ei fath
Bu clochdar a brefu wrth i’r ailwampio yng nghabinet cysgodol Jeremy Corbyn fynd rhagddo, yr unig ad-drefnu erioed byddai rhywun yn tybio yn ôl cyfryngau’r Sais. Y fath gythrwfl a rhialtwch yn ei gylch na welwyd mewn unrhyw ailwampiad o gabinet y llywodraeth hyd yn oed. Ac felly ein Stephen Doughty, wylltiodd cymaint â’r annhegwch nes ei fod wedi ymddiswyddo o’i rôl ar y fainc. Ynghyd â dau arall egwyddorol, mae’n debyg mai nhw yw’r cyntaf erioed yn San Steffan i wneud hyn o gabinet go-iawn neu gabinet cysgodol hollol ddi-rym.
Ein BBC diduedd
Ar ambell dro mae’r BBC yn penderfynu creu’r newyddion yn hytrach na dim ond ei adrodd. Daeth blogiad ar eu gwefan yn sôn sut y bu i Olygydd Gwleidyddol y BBC, Laura Kuenssberg, glywed si nad oedd ein Stephen Doughty ni yn driw iawn i’r arweinydd a’i fod yn meddwl gwneud sioe o hynny. A dyma Andrew Neil yn pendroni a fyddai’n fodlon ymddiswyddo’n fyw ar ei raglen The Daily Politics. Nid fod Stephen wedi poeni dim am yr enwogrwydd newydd fyddai yn sgil hynny. Ac felly bu i Stephen ymddiswyddo o’i swydd gysgodol yn ddramatig ar y rhaglen. Ar egwyddor, wrth gwrs. Nid agenda neb arall na hunan-hyrwyddo.
Yr Andrew Neil yn hitio’r ffan
Bu i nifer wneud cofnod o’r blogiad cyn i’r BBC sylwi nad oedd ei gyhoeddi yn syniad rhagorol, a’i dynnu cyn i’r Andrew Neil hitio’r ffan. Creulon fyddai peidio rhannu detholiad o’r danteithion melys, prydferth, diduedd, fu gymaint o gymorth i’r Prif Weinidog…
“…I wonder, mused our presenter Andrew Neil, if they would consider doing it live on the show? The question was put to Laura, who thought it was a great idea…
“Within the hour we heard that Laura had sealed the deal: the shadow foreign minister Stephen Doughty would resign live in the studio…
“Although he himself would probably acknowledge he isn’t a household name, we knew his resignation just before PMQs would be a dramatic moment with big political impact…
“As Andrew Neil handed from the studio to the Commons chamber we took a moment to watch the story ripple out across news outlets and social media. Within minutes we heard David Cameron refer to the resignation during his exchanges with Jeremy Corbyn…
“During our regular debrief after coming off air at 1pm we agreed our job is always most enjoyable when a big story is breaking – but even more so when it’s breaking on the programme.”
Trwsio’r twll cyn iddo dyfu
£1.5miliwn fyddai cost adeiladu amddiffynfeydd yn yr union fan ger Talybont lle bu i’r A55 droi’n lyn dwfn, ond gwrthod wnaeth Llywodraeth Cymru tan yr wythnos hon. Plentynnaidd fyddai amau i’r cynllun droi trwynau Carwyn ac Edwina gan mai oddi wrth Gyngor Plaid Cymru Gwynedd y daeth, nid fel yr ordor llawer, llawer drytach am M4 newydd gan y Torïaid yn Llundain.
Carwyn yn boddi
Ceisiodd Carwyn newid cwrs yr afon drwy bwyntio at y rhesymau pam wrthodwyd y gwelliannau mewn datganiad hirfaith i’r Daily Post. Yn anffodus roedd yn sôn am ddarn hollol wahanol o’r ffordd ddeuol na welodd y fath ddilyw dros yr ŵyl, ugeiniau o filltiroedd i ffwrdd o Dalybont, gan adael pawb i aros hyd heddiw am yr esgusod… sori, rhesymau, pam wrthodwyd y cynllun.
Marchnata i’r entrychion
A hithau’n ymadael ym mis Mai, anodd fyddai beio Edwina Hart am wneud y gorau o’i hamser prin sy’n weddill, felly clap iddi am wario £52,782 (+TAW) ar hysbysebu system drenau arfaethedig Metro De Cymru. Cafodd teithwyr a cherddwyr Caerdydd a’r cylch eu hysbysu gan y slogan bachog ‘Mae ar ei Ffordd’, er nad oedd y posteri anferth yn nodi pryd chwaith, sef 2020. Ond mae’n braf cael gwybod. Paid mynd, Edwina!
Dan warchae
“I am alarmed by the number of people I see wandering along the street entirely engaged in their mobile telephones and with their ears plugged in to music” dychrynodd y Farwnes Lady Neville-Jones. “They’re not aware of their surroundings – you need to be aware of your surroundings”. Roedd cyn-bennaeth y Joint Intelligence Committee a’r Tori yn methu coelio nad yw ieuenctid heddiw’n anwybyddu eu ffonau i chwilio am y terfysgwr agosaf. Wel, mae’n rhaid i ni oll fod yn wyliadwrus. A’r peth pwysig yw peidio panicio…
Terfysg! Terfysg ym mhobman!
… yn union fel staff tiwb Llundain, a daflodd ddyn oddi ar drên Piccadilly wedi i deithiwr gwyno fod rhywun yn defnyddio ei iPad yn ‘amheus’. Roedd y myfyriwr (tywyll, yn amlwg) wedi digwydd ei droi i ffwrdd wrth i’r teithiwr craff edrych ar ei sgrin. Buddugoliaeth arall i ddiogelwch ar adeg mor anodd i Loegr druan.
Ah…ah…ah…ah…Stayin’ Alive
Arferai Oliver Letwin ddarlithio Athroniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, a gwelwyd yr olwg eang yna ar bethau yn ei gyngor i Margaret Thatcher yn 1985 i anwybyddu’r cymunedau du mewn unrhyw gynlluniau arian cymunedol gan y byddent ond yn ei wario ar y ’disco and drug trade’. Fel y byddai ei gyfaill George Osborne yn cytuno, mae cyffuriau’n anghyfreithlon, ond pwy a wyddai fod Oliver â chymaint yn erbyn y Bee-Gees a’r Village People?
Troed ar yr ysgol
Un da ar Radio 4 wrth i David Cameron uniaethu ‘I fear my children will never get on the property ladder’. Rhywbeth nad oedd yn rhaid i Dai ei hun bryderu cymaint yn ei gylch wrth etifeddu nifer o dai mawr a phrynu mwy gydag arian sylweddol ewyllys hen fodryb. Oni wnaiff neb feddwl am y plant?
Soch soch
Wedi prynu darn o fochyn Cymreig am bris taclus yn siop Bwyd Cymru Bodnant, roedd cwsmer yn synnu i weld y gair ‘Belgie’ dros ei phorcyn. “All our fresh pork, lamb and beef comes from suppliers in Wales” ebe Bodnant. “In this case it appears the wrong stamp was used”. A hawdd yw ploncio’r stamp anghywir, yn enwedig stamp o’r sillafiad Ffrengig o Wlad Belg, yng Nghymru.
Rhoi’r British yn BBC Radio Cymru
Llwyth o sylw i ganlyniad Stoke v Lerpwl yn y Rumbelows Cup ar fwletin chwaraeon Radio Cymru am 24 awr, cymaint yn wir fel nad oedd amser hyd yn oed i grybwyll sgôr Y Bala v Caerfyrddin, gêm eithaf tyngedfennol yn siâp y Gynghrair Genedlaethol. Er, pwy o’u gwrandawyr fyddai’n trigo yn y trefi hynny.