Nigel Farage
Mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol yn galw am ‘drafodaeth go iawn’ rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage ynghylch beth ddylai newid o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ychydig ddyddiau cyn dadl ar y refferendwm arfaethedig.
Ddydd Llun fe fydd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn mynd benben mewn dadl ag arweinydd UKIP Nigel Farage i drafod a ddylai Prydain adael yr Undeb.
Ond yn ôl y Gymdeithas fe ddylai’r ddwy ochr edrych yn ddyfnach ar beth ddylai newid ar ôl y refferendwm, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar fod ‘o blaid’ neu ‘yn erbyn’ gadael.
Dywedodd y dylai newidiadau i’r Undeb gynnwys yr hawl i weinidogion o’r gwledydd datganoledig gael mwy o ddweud ar safbwyntiau polisi Prydain yn Ewrop.
Mae’r drafodaeth rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage, a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig, eisoes wedi codi gwrychyn gwrthbleidiau’r Cynulliad sydd wedi holi pam mai dim ond cynrychiolydd o’r Blaid Lafur fydd yno’n dadlau’r achos dros aros yn Ewrop.
Argymhellion
Cyn y ddadl ddydd Llun mae’r Gymdeithas wedi gwneud argymhellion ar beth ddylai ddigwydd fel rhan o’r newid ym mherthynas Prydain ag Ewrop – os ydyn nhw’n aros yn rhan o’r Undeb.
Mae’n cynnwys newid y system bleidleisio i STV fyddai’n golygu bod gan etholwyr fwy o ddweud dros ba rai o ymgeiswyr y pleidiau maen nhw am bleidleisio drostynt.
Mynnodd y Gymdeithas y dylai gweinidogion o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd gael cyfrannu eu barn at safbwynt Llywodraeth Prydain yn ystod trafodaethau Ewropeaidd, yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion.
Cwestiynau i’r ddau
Yn ôl Katie Ghose, Prif Weithredwr y Gymdeithas, yr “eliffant mawr yn yr ystafell” oedd beth fyddai’n digwydd i’r Undeb Ewropeaidd ar ôl y refferendwm, ac fe alwodd ar Carwyn Jones a Nigel Farage i esbonio hynny.
“Mae Carwyn Jones wedi codi ‘Cwestiwn Pen-y-bont’ yn y gorffennol – y ffaith bod polisi amaeth Prydain yng Nghyngor Gweinidogion Ewrop, er enghraifft, yn cael ei gyflwyno gan Weinidog Amaeth San Steffan bob tro, waeth beth yw barn gweinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai.
“Mae angen iddo nawr ateb y cwestiwn yma yng nghyd-destun y refferendwm. Os yw etholwyr yn dewis aros yn yr UE, sut ddylid delio â hyn a materion eraill yn ymwneud â’r diffyg democrataidd?
“Mae cwestiynau i Nigel Farage hefyd – os yw Prydain yn gadael yr Undeb, fydd ganddi ddim dylanwad ar y rheolau masnachu y bydd yn rhaid i ni eu dilyn er mwyn gwneud busnes ag Ewrop.
“Sut fyddai Prydain y tu allan i Ewrop yn sicrhau bod dinasyddion a’u llywodraeth etholedig yn gallu cael dylanwad go iawn ar y materion hyn? Ac os yw Cymru’n pleidleisio i aros, ond Lloegr yn pleidleisio i adael, a ddylai pleidleisiau Lloegr dynnu Cymru allan o’r Undeb Ewropeaidd?”