Bydd rhaglen newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru i helpu pobol sy’n gwella ar ôl defnyddio cyffuriau, neu’n dygymod â phroblemau iechyd meddwl, i ddod o hyd i waith.

Y bwriad yw ceisio helpu dros 5,900 o bobol dros 25 oed trwy wario £7.2 miliwn ar y rhaglen waith, gyda £4.8 miliwn o’r arian hwnnw yn dod o gronfa gymdeithasol Ewrop.

O dan y cynllun, bydd pobol yn derbyn gwasanaeth mentora dwys a chymorth arbenigol ar gyflogaeth.

Ar ôl cael swydd, bydd pobol sy’n rhan o’r rhaglen yn dal i gael cymorth am hyd at dri mis.

Gwaith yn “bwysig iawn” i iechyd a lles

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gethin, mae cael swydd yn “bwysig iawn” i iechyd a lles pobol.

“Gall problemau iechyd meddwl neu gaethiwed i gyffuriau neu alcohol fod yn rhwystr rhag cael swydd. Mae tystiolaeth gref bod diweithdra’n medru cyfrannu at afiechyd ac arwain at syrthio yn ôl at broblemau,” meddai.

“Gall swyddi helpu pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau neu o broblemau iechyd meddwl, gan gynnig sefydlogrwydd ac incwm.

Ac mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt o’r farn y bydd y rhaglen yn gallu cynnig ‘dyfodol iachach’ a ‘mwy llewyrchus’ i bobol Cymru.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu pobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau i gael mynediad at y farchnad swyddi,” meddai.

“Rwy’n falch iawn bod modd i ni gefnogi’r rhaglen newydd hon gyda chronfeydd yr UE, gan helpu pobl i fanteisio ar ddyfodol iachach, mwy llewyrchus.”