Roedd yn rhaid i feddygon, nyrsys a chleifion redeg am eu bywydau ar ôl i deirw dur gyrraedd ysbyty yng nghanolbarth China i ddymchwel rhan o’r adeilad.
Fe gladdwyd chwe chorff oedd mewn corffdy yn yr ysbyty yn ninas Zhengzhou, o dan y rwbel.
Roedd swyddogion yr ysbyty wedi cyhuddo’r llywodraeth leol o ddechrau ar y gwaith dymchwel cyn cytuno ar hynny gyda’r ysbyty.
Yn ôl yr adroddiadau, mae’r awdurdod lleol am greu gwagle i estyniad i’r ffordd sydd gerllaw’r ysbyty.
Ond mae Swyddfa Wybodaeth Llywodraeth Rhanbarth Huiji wedi gwadu fod pobol yn yr adeilad pan ddechreuodd y teirw dur ar eu gwaith, ac yn mynnu nad oes neb wedi cael unrhyw anafiadau.
‘Gwerth £2 miliwn o ddifrod’
Dywedodd Ysbyty Rhif 4 Prifysgol Zhengzhou fod y gwaith dymchwel annisgwyl ddoe wedi claddu chwe chorff oedd yn y corffdy, achosi gwerth bron i 20 miliwn yuan (£2m) o ddifrod i offer meddygol ac wedi anafu sawl aelod o staff yr ysbyty.
“Mae claddu gweddillion cleifion yn amharchus tu hwnt i’r meirw,” meddai dirprwy bennaeth propaganda’r ysbyty, Zhang Yuan.
“Doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddai unrhyw beth fel hyn yn digwydd.”