Gwastraff anghyfreithlon.
Mae trigolion Castellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i glirio gwastraff o’u cartrefi ar ddechrau’r flwyddyn newydd.

Dyma ymgais gan y cyngor i geisio lleihau tipio anghyfreithlon ac annog pobol i ailgylchu mwy, a bydd felly yn cynnal amnest gwastraff ym maes parcio’r mart ar 19 Ionawr rhwng 8am a 1pm.

Gall pobol ddod â hen gelfi, carpedi a matresi diangen i’r amnest, yn ogystal ag eitemau trydan fel oergelloedd a setiau teledu.

Bydd y cyngor hefyd yn derbyn teiars ceir, ond dim mwy na phedwar fesul person. Ni fydd teiars tractors na theiars lorïau yn cael eu derbyn.

Mae gwastraff ‘peryglus’ wedi’i wahardd hefyd: paent, batris, cemegion, gwydr, gwastraff gardd a gwastraff amaethyddol.

Cost ailgylchu

Yn ôl perchennog siop leol, mae’r amnest yn syniad da a allai annog rhagor o bobol i ailgylchu.

“Y broblem gyda ni fel pobol busnes yw’r gost o ailgylchu. Mae gennym ni lawer o focsys ac mae’n ddrud cael eu gwared nhw,” meddai Rhian James o Siop Iago wrth golwg360.

“Felly byddai cael rhywbeth mewn man canolog, sy’n gyfleus yn annog rhagor o bobol i ailgylchu bydden i’n dychmygu.”

Ac yn ôl y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, y neges i drigolion yw i ‘fanteisio ar y cyfle’.

“Mae’n bosibl bod ganddynt eitemau diangen o amgylch y cartref sydd angen eu gwaredu,” meddai.

“Ein gobaith yw y bydd yr amnest yn helpu i leihau tipio anghyfreithlon ac yn annog pobl i ailgylchu cymaint o ddeunydd ag sy’n bosibl er mwyn i lai gael ei anfon i gladdfeydd sbwriel.”

Bydd bag compost Hud Myrddin ar gael i bobol sy’n dod i’r amnest a bydd biniau compost ar werth am hanner pris hefyd.

Mae trigolion yn cael eu cynghori i ddod â phrawf o’u cyfeiriad.