Blogiwr technegol Golwg360, Bryn Salisbury, sy’n asesu dyfais ddiweddaraf Apple.
Rhag ofn eich bod chi heb sylweddoli, ddaru Apple cyhoeddi eu fersiwn diweddaraf o’r iPhone wythnos diwethaf.
Mae’r iPhone newydd yn ysgafnach, cyflymach a phopeth arall da ni’n disgwyl pob blwyddyn erbyn hyn.
Doedd dim yn y cyhoeddiad a oedd yn synnu unrhyw un, roedd rhan fwyaf o’r newidiadau wedi cael ei datgelu yn y wasg yn barod, efallai mewn ymdrech i geisio lleihau gobeithion pobol.
Y peth oedd wir yn syndod i mi ydi ymateb pobl oedd yn dweud “beth?
Dyna’r oll?”. Mae’n debyg bod pobol nawr wedi dod i ddisgwyl newid arloesol pob blwyddyn, a bod unrhyw beth sydd ddim yn newid anhygoel ddim yn haeddu unrhyw ystyriaeth.
Lle cyfyng
Mae’n wir, di’r dechnoleg yn ei hun ddim wedi gweld newid anferthol – mae’r ffôn yn deneuach, a rhywfaint yn hirach. Mewn fideo gafodd ei gyhoeddi yn ystod y lansiad, ddaru Apple bwysleisio’r gwaith a’r ymdrech oedd yn mynd mewn i greu pob dyfais, a bod wir ddim mwy o le yn y ddyfais i roi dim arall (un o’r ffyrdd mae’r cwmni’n cyfiawnhau newid y cebl a maint y cerdyn SIM).
I ddweud y gwir, mae’n syndod i mi fod Apple yn gallu rhoi cymaint o dechnoleg mewn rhywbeth mor fach ac mor denau.
Ers lansiad yr iPhone nôl yn 2007, does fawr ddim wedi newid o ran y siâp a’r math o dechnoleg sydd mewn ffonau symudol. Y cwestiwn yw (ym marn y Fake Steve Jobs), ydi Apple wedi colli ei ffordd?
Yn fy meddwl i, Nagyw. Maen nhw dal yn synnu pobol trwy allu gwasgu mwy a mwy o dechnoleg mewn i ddyfais sy’n llai ac yn llai.
Gwella gwasanaethau
Does fawr ddim arall fydd yn gallu cael ei wneud i’r ddyfais ond gwneud yr elfennau amrywiol yn well (sy’n newid esblygiadol, yn hytrach na newid arloesol). Fydd fawr ddim newydd i’w gael gan Apple, Samsung, Motorola/Google, RIM na Nokia yn y blynyddoedd nesaf – y newid nesaf fydd yn y gwasanaethau mae’r ffôn yn galluogi i ni ddefnyddio.
Da ni’n dechrau gweld gwasanaethau fel Netflix, Twitter, Facebook ac YouTube yn gwneud defnydd o’r dechnoleg mae’r dyfeisiadau newydd yn rhoi i ni.
Mae cwmnïau yn yr UDA (fel Square) yn ein galluogi ni i wneud defnydd o’r iPad fel system mân dalu, da ni’n gallu arwyddo dogfennau a siarad â phobl ar draws y byd trwy ddefnyddio fideo.
Da ni ond yn dechrau dod i ddeall gwir rym y platfform newydd ’ma, fel y cymerodd hi sawl canrif i bobol dod i ddeall gwir rym gwaith Gutenberg.
Y peth pwysig nawr ydi bod pobol yn cael y gallu a’r amser i wthio’r dechnoleg mor bell ag sy’n bosib, cymryd mantais o bob elfen a dangos i gwmnïau fel Apple, Google a.y.y.b. “dyma beth da ni eisiau nesaf”. Dim ond wedyn mae’n bosib cael y datblygiad arloesol nesaf.
Tan ’ny, fydd rhaid i ni barhau i fyw ein bywyd yn yr oes ddistaw o ddatblygiadau ffonau symudol.
Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.