Mae grŵp amlbleidiol o Aelodau Seneddol wedi rhybuddio bod cyswllt band eang gwan yn niweidio’r economi.
Dywedodd y grŵp fod y sefyllfa’n cael effaith ar fuddsoddiadau yng Nghymru, ac maen nhw wedi galw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i gydweithio er mwyn gwella’r cyswllt.
Mae yna rai ardaloedd yng Nghymru sydd heb gyswllt o gwbl i’r we.
Mewn adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, mae’r grŵp amlbleidiol yn dweud bod cyswllt cyflym i fand eang yn hanfodol i’r economi, gan rybuddio bod angen gwella’r cyswllt yng Nghymru fel ei fod o’r un safon â gweddill Prydain.
Er bod y cyswllt yng Nghymru wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae yna fwlch mawr o hyd o’i gymharu â gwledydd eraill Prydain.
Mae’r grŵp yn dweud bod y cyswllt gwan yn golygu nad yw busnesau newydd yn debygol o ymsefydlu yng nghefn gwlad Cymru.
Ym mis Gorffennaf, cafodd cytundeb ei lofnodi gan Lywodraeth y Cynulliad a BT er mwyn i 96% o gartrefi Cymru gael cyswllt gwell i’r we erbyn 2015.
‘Anodd credu fod rhai heb gyswllt’
Dywedodd cadeirydd y grŵp, David Davies AS, fod “mynediad i gyswllt cyflym i’r rhyngrwyd yn hanfodol ar gyfer busnesau a’r economi yng Nghymru.”
“Bydd band eang yn dod yn gynhyrchydd cynyddol bwysig yn llwyddiant yr economi ac yn ffordd o fynd i’r afael a neilltuaeth gymdeithasol,” meddai David Davies.
“Mae’n anodd credu ond yng nghanol 2012 mae yna rai ardaloedd yng Nghymru lle nad oes gan rai pobl gyswllt o gwbl. Mae’n amhosib gweld sut gall busnesau neu’r economi ddatblygu yn yr ardaloedd hyn.
“Mae gan y ddwy lywodraeth dargedau uchelgeisiol dros ben ar gyfer darpariaeth band llydan ac ychydig iawn o amser sydd ar ôl i’w hateb.
“Rhaid i Gymru barhau i dderbyn y nawdd a’r arweiniad gwleidyddol er mwyn sicrhau bod darpariaeth band llydan o leiaf yn unol a gweddill y DU, a bod y mannau araf a’r mannau heb gyswllt sy’n weddill yng Nghymru yn cael eu dileu ar frys.
“Rhaid i’r ddwy lywodraeth ystyried yr holl ffyrdd posib o gael hyn yn gyflym.
“Rhaid i raglenni llywodraethau Cymru a’r DU gael eu cyflwyno heb oedi a gobeithio’n fawr y byddan nhw ill dau yn rhoi ystyriaeth i argymhellion y Pwyllgor. Byddwn yn parhau i fonitro strategaethau band llydan y ddwy lywodraeth yn ystod y Senedd hon.”