Ein blogiwr technegol, Bryn Salisbury sy’n annog pawb i ymateb i gynlluniau monitro mae’r Llywodraeth am gyflwyno.
Dros y misoedd diwethaf, mae ’na frwydr wedi bod yn mynd ’mlaen yn Senedd Ewrop dros yr Anti Counterfiting Trade Agreement (neu ACTA). Cafodd y cytundeb ei greu bron yn hollol gyfrinachol, ac mae’n gorfodi gwledydd sydd wedi cytuno i’r peth i newid sawl cyfraith bwysig sy’n galluogi i’r we weithio.
Y bwriad oedd symud rhan helaeth o’r penderfyniadau am hawlfraint ac ati i grŵp rhyngwladol fydd yn gallu gosod termau hawlfraint newydd, heb fod aelodau seneddol yn gallu trafod neu wrthod y newidiadau.
Y perygl fyddai bod hawlfraint a’r rheolau yn dod dan ddylanwad grwpiau fel yr MPAA, RIAA, a bod dim gallu gan lywodraethau i newid deddfau os ydyn nhw’n amharu ar hawliau dinasyddion ei hunain.
Ar ôl cryn dipyn o waith gan filoedd o bobl ar draws Ewrop, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod derbyn y cytundeb mewn pleidlais dydd Mercher. Mae’n debygol nawr na fydd y cytundeb yn dod i rym, gan ystyried fod Awstralia a Seland Newydd hefyd yn debygol o wrthod y peth.
Y brawd mawr yn gwylio
Ond yn agosach at adref, mae ’na frwydr bwysig arall yn dechrau dros y Communications Capability Development Program (CCDP), lle mae’r llywodraeth yn gobeithio gorfodi cwmnïau sy’n cyflenwi cysylltiadau i’r we i gadw cofnod o’n gwefannau a phwy ’da ni’n gyrru e-bost iddyn nhw.
Mae’r llywodraeth eisiau cwmnïau fel BT cadw cofnod o bawb mae eu cwsmeriaid yn gyrru e-bost atyn nhw (hyd yn oed os ydyn nhw’n defnyddio gwasanaeth e-bost Google), ond gan beidio cadw cynnwys y neges.
Mae’r llywodraeth yn honni bod hyn er mwyn nadu terfysgaeth, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y cynlluniau yn rhoi’r gallu i’r llywodraeth ysbio arnom ni, hyd yn oed os nad ydan ni wedi torri unrhyw gyfraith.
Mwy ’na ’ny, mae’r syniadau sydd wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn yn rhai sydd un ai’n hollol amhosib i’w gweithredu (e.e. edrych mewn i gysylltiad SSL a nodi gwybodaeth o’r cysylltiad), neu’n amharu ar gyflymder cysylltiadau gwe (trwy orfod prosesu ac archwilio pob tamaid o ddata).
Cam yn rhy bell
Mae’r Llywodraeth sicr angen y gallu amddiffyn y cyhoedd, ond mae monitro cysylltiaid gwe pawb “jest rhag ofn” gam yn rhy bell. Mae’n amharu ar ddatblygiad gwasanaethau i ni fel y cyhoedd, ac yn beth drud i’w adeiladu wrth i’r Llywodraeth geisio arbed arian.
Fydd y monitro ddim yn gallu ’nadu’ terfysgaeth, dim ond creu corff o dystiolaeth i fynd ar ôl person unai tra bod nhw’n cynllunio digwyddiad terfysgol, neu ar ôl hynny, i helpu eu dal nhw.
Bydd y ddeddf yn cael ei drafod dros y misoedd nesaf, a’r gwir ydi bod angen i ni fel cyhoedd ymateb a dweud nad ydan ni’n fodlon i’r Llywodraeth geisio amharu ar ein hawliau ni o dan y faner o wrthderfysgaeth.
Os ydach chi’n hoffi gallu defnyddio’r we fel y mae o nawr, neu eisiau i bethau ddal ati i allu gwella, mae’n hollbwysig i chi cadw golwg ar hyn, a siarad gyda’ch aelod seneddol.
Fel mae’r frwydr ACTA yn dangos, mae’r gallu dal yno i ni newid pethau …
Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.