Mae’r Gwasanaeth Tân wedi eu galw i helpu gyda llifogydd ym Mhen Llŷn yng Ngwynedd.

Cafwyd gwlypni mewn tai ym Mhwllheli, Llaniestyn, Aberdaron a Botwnnog.

Ond er y twydd garw, mae trefnwyr Wakestock ger Aberrsoch yn dal i fynnu bod yr ŵyl yn mynd i gael ei chynnal dros y penwythnos.

Mewn mannau eraill o’r wlad, mae traffordd yr M50 yn rhannol ar gau yn y de ac mae’r A5118 ar gau yn Sir y Fflint.