Daf Prys sydd yn edrych ar arlwy Gamescom, sioe gemau gyfrifiadur mawr Ewrop a gynhaliwyd yn Köln, yr Almaen

Mae agweddau yn newid o hyd. Mae’n hawdd dadlau mai Gamescom bellach yw sioe fwya’ gemau cyfrifiadur y blaned.

Doedd dim llawer iddi ond rhyw bum mlynedd ’nôl a nawr drychwch arni, bwystfil ble mae’r newyddion mwya’ syfrdanol ym myd gemau cyfrifiadurol yn cael ei rhyddhau.

Fideo cynta’ o gêm Quantum Break yn rhedeg, y gêm sy’n neud i lot o bobl feddwl taw dyma’r amser i brynu Xbox One, Sierra Studios yn cael ei atgyfodi gyda’i chyfresi hollbwysig ‘Galaxy Quest’ a ‘Geometry Wars’, o ie, a’r ffaith fach ’na fod Tomb Raider nawr am fod yn console exclusive i Xbox (nôl at hwn mewn eiliad).

Sensoriaid yr Almaen

Mae’n beth digon diddorol yn ei hun fod Gamescom yn cael ei chynnal yn yr Almaen, gan feddwl am y berthynas digon bregus rhwng y cwmnïau cyhoeddi a bwrdd sensoriaeth yr Almaen, sydd yn fwrdd hanesyddol ceidwadol dros ben.

Mae’n gyfatebol i Awstralia ar ba mor gyndyn ydyn nhw i adael i’r stwff mwy ffraeth sydd i’w canfod mewn gemau drwy’u drysau gwladol.

Mae yna wastad rhyw helynt flynyddol am ryw gêm yn cael ei wrthod gan yr Almaen, ac erbyn hyn, mae sawl cwmni cyhoeddi wedi dallt y dalltings ac yn anghofio hyd yn oed trio cael eu gemau trwy’r system (Sega er enghraifft ddim wedi ceisio efo ‘Madworld’)

Mae siŵr o fod yn safio cwpl o geiniogau lleoleiddio (neith Cymru eich derbyn chi, chwi gwmnïau mawrion, os oes unrhyw un yn darllen o Sony neu Nintendo et al).

Mein, ahem, *mae’n* hanes diddorol iawn a rhesymau difyr tu ôl i’r peth ac efallai bydd erthygl yn y dyfodol ar y pwnc.

Ond ta waeth, rhestr o hoff bethau @dafprys ddaeth allan yn ystod y sioe.

Rise of the Tomb Raider

Dim yn union fy hoff beth, fel petai, ond atsain o’r hen do fan hyn, gem sy’n arbennig i Xbox yn unig a does neb yn siŵr os daw hwn allan ar y PlayStation o gwbl.

Falle ddim yn swnio fel newyddion mawr iawn, bosib, i’r rheiny sy’n cofio dyddiau *da* exclusives Resident Evil, Final Fantasy a Dead Rising, ond erbyn heddiw mae’n syfrdanol gan greu ymateb chwyrn yn y safleoedd arferol.

Mae’n anodd deall pam fod unrhyw gêm third party yn ecsgliwsif erbyn hyn, gan gofio cost uchel datblygu gemau AAA console (a PC wrth gwrs).

Ond mae’n rhaid bod rhesymau da gan Xbox a Crystal Dynamics, datblygwyr gêm nesaf Lara Croft, i ddod i’r fath gytundeb.

I Xbox, cwmni sydd â chyfoeth anferthol Microsoft tu ôl iddynt, hawdd yw taflu arian at broblem a derbyn pluen yn eu het am y drafferth, mae’r Xbox One y tu ôl i’r PS4 o dri i un o ran niferoedd a werthwyd i bobl yn eu tai, a rhaid meddwl bod bois Microsoft felly yn meddwl taw dyma’r gêm i droi’u lwc.

Ond mae’r niferoedd yna’n bwysig i Crystal Dynamics hefyd, gan eu bod nhw’n tynnu’r gêm allan o hyd braich rheiny sydd efo PS4 dan y teli, hynny yw marchnad arferol namyn 10 miliwn bois y PlayStation, a dal i gyfri.

Yr ateb pam fod hwn wedi digwydd? Arian o flaen llaw. Mae exclusives yn golygu arian parod o flaen llaw, cyllideb a llif arian agored ar gyfer prosiectau newydd.

Gyda datblygwyr mawrion yn wynebu trafferthion taliadau dydd i ddydd y dyddiau yma falle bod sefydlogrwydd heddiw yn fwy pwysig na cheiniogau mawr fory.

Gweithred gêm ‘asymetrig’

Ffad newydd! Mae pawb yn mwynhau ffads, fi’n cofio ffad yo-yos yn yr wythdegau a bob yn ail blentyn efo llygad ddu. Ffad ice buckets, a doc martens, scandinoir a’r BMX, y Wii … a nawr ‘asymmetric gameplay’.

Beth yw hwn de? Mae gemau aml-chwaraewr fel arfer wedi creu rownd y syniad o ddau dîm cyfartal, pump yn erbyn pump er enghraifft, yn brwydro i ennill fflag neu rywbeth.

Wel mae ‘Asymmetric Gameplay’ yn torri hwn ac yn cynnig gweithred a chyfathrach ddigidol tra gwahanol, e.e. yn Fable:Legends.

O, Fable, ti a dy obsesiwn efo rhech a gwirioni. Yn aml yn cuddio systemau digon soffistigedig oddi tano, ond dwi wastad wedi mwynhau’r gemau.

Ac mae’r nesaf yn y gyfres yn troi mewn i ryw fath o Dungeons and Dragons, i’w weld, gyda lefelau yn cael eu gosod gan un chwaraewr sy’n ymddwyn fel dungeon keeper tra bod pedwar chwaraewr arall yn profi’r sialens.

R’un peth yn Evolve, pedwar heliwr yn trio dal creadur hunllefus sy’n cael ei reoli gan chwaraewr arall.

Arlwy tebyg i beth oedd Nintendo yn ceisio creu gyda’u gemau bychan yn Nintendoland, y gêm oedd yn dod efo’r WiiU, a hwnnw wrth gwrs efo’r gamepad unigryw yna efo sgrin ei hun. Dwi’n ffan fawr o’r syniad. Dwi’n ffan fawr o unrhyw beth newydd (ochenaid).

The Tomorrow Children

Hwn oedd yr un wnaeth fy nharo i’n syth fel yr un i edrych allan amdano. Wedi seilio ar syniadaeth Karl Marx, gêm efo gweithred syml Minecraft o gloddio wedi’i chroesi efo byd cyson MMO a gwaith celf drawiadol dros ben.

Am ryw reswm mae’n atgoffa fi o animeiddio rhaglenni plant y 70au a’r 80au (Magic Roundabout a Phostmon Pat e.e.), hynny yw bach yn crîpi ond methu tynnu llygaid i ffwrdd!

Dim llawer o fanylion o ran sut bydd popeth yn chwarae ond dyw hwnna erioed wedi stopio fi rhag manylu fod y gêm am fod yn superawesome’A-Ok’number1!

Volume

Mike Bithell (Thomas Was Alone) sydd y tu ôl i hwn ac yn neidio o top down 2D pixel art i stealth 3D. Os am naid, neidiwch yn wyllt. Y rheswm fod hwn yn argoeli’n dda yw achos Thomas Was Alone. Oes angen i fi sgwennu mwy? Ah blincin ec, oce te.

Gêm aruthrol yw Thomas Was Alone, edrych fel drôr lego y blaned efo darnau o sgwariau fan hyn a fan draw, ond nerth y peth oedd y weithred – mwy neu lai gemyddio wedi’i ferwi lawr i un wy moel a’r melynwy bellach yn llwyd hunllefus.

P.T. (Silent Hills)

Gêm arswyd, felly na, nesaf! Mae Hideo Kojima a Guillermo del Toro wedi dweud taw nod y gêm yma yw gwneud i fi (a phawb arall) lenwi’u trôns.

I fod yn deg, dyw tronsys ddim yn rhad dyddie ‘ma ac am ryw reswm mae’r cariad wedi cychwyn prynu rhai gwyn i fi, sy’n gamgymeriad ar sawl lefel…

The Order

Gen i deimladau cymysg iawn am hwn. Pobl eto fyth yn cloddio mytholeg Arthuraidd ac yn ploncio’r peth ynghanol Llundain yr 18fed ganrif gan gynnig criw’r bwrdd crwn fel rhyw fath o heddlu yn erbyn radicaliaid y ddinas a, ym, blaidd-ddynion.

Mae cymeriadau arferol o gread rhamantus y fytholeg oll yna, Galahad, Gawain etc., a’r holl beth wedi plethu o fewn fframwaith Elisabethaidd.

Oes sydd, mwy neu lai, megis Bulldog mewn fflag San Siôr yn chwalu peint o ‘Best’ wrth ddawnsio’r Morris, ymysg yr oesoedd fwya’ ‘Seisnigaidd’ fedra i feddwl amdano.

Sai’n credu fod Ready at Dawn, y bois tu ôl i’r gêm, wedi clywed am Taliesin. Ond pam teimladau cymysg felly? Achos mae’r weledigaeth yn fabulous, darling.

No Man’s Sky

Siomedigaeth fi methu rhegi’n wyllt allan o bleser pur fan hyn, digon posib fydd e’n dod ar draws fel cyfres o eiriau anghysylltiedig. Ta waeth, felly na’i sibrwd y mochyndra i’n hun fan hyn gan obeithio fod y gath ddim yn gwrando.

Mae rheswm da pam fy mod yn teimlo ei fod yn hollol angenrheidiol i regi, a’r rheswm hwnnw yw No Man’s Sky. Sdim pwynt sgwennu mwy – anelwch eich marblis sgwiji at y sgrin oddi tano’r frawddeg hon.

Ori and the Blind Forest

Mae ‘na lot o 2D platformers gwych wedi ymddangos dros y blynyddoedd diwethaf, rhai ar ffurf ‘roguelike’ megis spelunky ac eraill yn rhai pur megis Rayman Legends, sy’n gêm mor dda ma’ fe’n hollol, hollol hurt, ac mae Ori and the Blind Forest i’w weld yn cario ‘mlaen y gwaith da hynny.

A tebyg i be dwi wedi sgwennu o’r blaen, weithiau dwi jyst yn hoffi mynd i’r chwith ac i’r dde, a neidio ambell dro.