David Cameron
Mae David Cameron ac Ed Miliband wedi penderfynu hepgor Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin yfory er mwyn ymgyrchu yn yr Alban.

Mewn datganiad ar y cyd â’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, dywedodd arweinwyr y tair prif blaid yn San Steffan eu bod nhw am fod yn “gwrando a siarad gyda phleidleiswyr” am y dewis y byddan nhw’n gorfod ei wneud wythnos nesa.

Daeth y cyhoeddiad wrth i Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond ddweud bod yr ymgyrch Na yn “llanast llwyr” ac wrth i arolygon barn awgrymu y bydd y canlyniad yn un agos iawn.

Yn eu datganiad, dywedodd y tri arweinydd: “Mae llawer sy’n ein rhannu ni ond mae un peth yr ydym yn cytuno arno’n angerddol – mae’r Deyrnas Unedig yn well gyda’i gilydd.

“Dyna pam ein bod ni’n gytûn mai’r lle gorau i ni fod yfory yw’r Alban, nid yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog.”
Mae disgwyl y bydd y tri arweinydd yn mynd i wahanol ddigwyddiadau yn yr Alban yfory, yn hytrach nag ymddangos gyda’i gilydd.

Wrth siarad yng ngardd 10 Downing Street, gwadodd David Cameron bod yr ymweliad yn arwydd o banig ac ychwanegodd ei fod am wneud popeth o fewn ei allu i gadw’r DU yn un.

Mae disgwyl i William Hague gymryd lle David Cameron sesiwn holi’r Prif Weinidog ond dywedodd llefarydd David Cameron bod y Prif Weinidog yn bwriadu mynd i’r Alban eto wythnos nesa cyn y refferendwm.

Pwerau newydd

Yng Nghaeredin heddiw, fe ymunodd arweinwyr Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol i roi addewid am ragor o bwerau i’r Alban.

Ac mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ymweld â’r Alban heddiw i roi hwb i’r ymgyrch Na.

Cafodd y cyhoeddiad am ragor o bwerau ei ddisgrifio fel twyll gan Alex Salmond a ddywedodd bod dim byd newydd yn y pecyn.

Diffyg paratoi

A dywedodd prif was sifil y DU ddoe nad yw Llywodraeth San Steffan, gan gynnwys Swyddfa Cymru, wedi paratoi o gwbl at bleidlais o blaid annibyniaeth.

Er i gyn Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, herio Syr Jeremy Heywood am hynny, dywedodd nad oedd unrhyw gynlluniau wedi cael eu gwneud.

Meddai: “Mae’r Prif Weinidog wedi ei wneud yn glir nad yw’r llywodraeth na’r gwasanaeth sifil yn gwneud unrhyw gynlluniau petai pleidlais dros annibyniaeth.”