Mae seiclwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod ar stryd yng Nghaernarfon neithiwr.

Daethpwyd o hyd i’r dyn, sydd yn ei 60au, ar Stryd yr Eglwys tua 7 o’r gloch nos Lun. Mae’n debyg ei fod wedi cael ei daro’n wael tra’n seiclo.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roedd parafeddyg a chriw ambiwlans ar y safle, ac fe aed a dyn yn ei 60au mewn cyflwr difrifol i Ysbyty Gwynedd.”