Chris Coleman
Fe fydd Cymru’n hyderus y gallan nhw sicrhau buddugoliaeth i ffwrdd yn Andorra heno er mwyn rhoi’r dechrau gorau posib i’w hymgyrch ragbrofol newydd.

Mae bron i 1,500 o gefnogwyr Cymru wedi teithio draw i’r wlad fechan ym mynyddoedd y Pyrenees i gefnogi tîm Chris Coleman, fydd yn chwarae ar gae artiffisial heno.

Mae gan Coleman ambell benderfyniad i’w wneud ynglŷn â phwy fydd yn dechrau’r gêm heno, gyda Ben Davies a Neil Taylor yn cystadlu am safle’r cefnwr chwith, a chystadleuaeth gref yng nghanol cae rhwng Andy King, Joe Ledley ac Emyr Huws i weld pwy fydd yn ymuno â Joe Allen ac Aaron Ramsey.

Ond yn yr ymosod mae’r penbleth mwyaf, gyda’r rheolwr yn awgrymu ddoe ei fod yn ystyried chwarae Gareth Bale yn y prif safle yn lle opsiynau eraill fel Simon Church a Tom Lawrence.

Roedd rhai o gefnogwyr Cymru eisoes yno gyda baneri i groesawu’r tîm pan gyrhaeddon nhw Andorra ddoe, ac mae capten Cymru Ashley Williams yn awyddus i’w plesio.

“Yn gyntaf, rydyn ni eisiau chwarae’n dda a chael tri phwynt i’r cefnogwyr,” meddai’r capten.

“Mae hwn yn le anodd ei gyrraedd, mae cefnogwyr wedi gwario llawer o arian i ddod yma,
“Rydym ni eisiau rhoi rhywbeth iddyn nhw fynd adre’n hapus yn ei gylch.”

Gwrthwynebwyr gwan

Does dim disgwyl i’r tîm cartref fod yn llawer o fygythiad i Gymru – mae Andorra wedi colli pob un o’u 44 gêm gystadleuol ddiwethaf, ac ni lwyddon nhw i sgorio gôl yn eu hymgyrch ddiwethaf.

Dim ond un gêm gystadleuol mae’r wlad fechan o lai na 100,000 o bobl erioed wedi’i hennill ar y llwyfan rhyngwladol – buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Montenegro yn 2004.

Mae’r rhan fwyaf o’u chwaraewyr yn chwarae i dimau lled-broffesiynol ac amatur o Andorra, a’r amddiffynwyr Ildefons Lima a’r capten Oscar Sonejee yw eu prif chwaraewyr, yn ogystal â’u prif sgorwyr.

Ond fe fydd y cae artiffisial newydd sydd wedi cael ei osod fel rhan o waith adnewyddu’r stadiwm genedlaethol yn arwynebedd anghyfarwydd i Gymru.

Cafodd y cae 3G ei osod oherwydd bod pêl-droedwyr Andorra’n rhannu’r stadiwm â’r tîm rygbi cenedlaethol, a dyw Cymru ddim wedi chwarae ar gae artiffisial o’r fath o’r blaen.

Ond dyw’r capten Ashley Williams ddim yn poeni’n ormodol am yr arwyneb yn stadiwm Andorra La Vella, er gwaethaf y ffaith bod FIFA wedi codi amheuon am y safon bythefnos yn ôl.

“Dwi erioed wedi chwarae gêm gystadleuol ar 3G o’r blaen, ond dwi wedi chwarae ar gaeau tebyg, rydyn ni i gyd wedi arfer chwarae ar gaeau fel hyn,” meddai Williams. “Mae gan y rhan fwyaf o glybiau gaeau ymarfer artiffisial.

“Heblaw am siarad â’r wasg, dydyn ni heb drafod y cae rhyw lawer. Dydyn ni ddim yn poeni’n ormodol amdano.”

Ewro 2016 yw’r nod

Bydd Cymru hefyd yn wynebu Gwlad Belg, Bosnia-Herzegovina, Israel a Chiprys yn y grŵp rhagbrofol hwn, gyda dau dîm gorau’r grŵp yn cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc a’r trydydd yn wynebu gêm ail gyfle.

A dyw Williams ddim yn swil i ddweud mai dyna yw’r nod i dîm Cymru.

“Mae awyrgylch o gwmpas y lle. Yng ngwesty’r tîm, ac o gwmpas Cymru, mae pawb yn meddwl y gallan ni gyrraedd y twrnament,” meddai Williams.

“Rydyn ni i gyd eisiau cyrraedd twrnament rhyngwladol. Rydyn ni ei eisiau cymaint â’r cefnogwyr, credwch chi fi. Rydyn ni wir eisiau bod y tîm Cymru wnaeth lwyddo i gyrraedd y disgwyliadau. Mae’r amser yn iawn.

“Rydyn ni’n rhoi pwysau ar ein hunain. Rydyn ni’n mynd mewn i’r ymgyrch yma’n disgwyl cyrraedd yr Ewros.”