Daf Prys
Daf Prys fu’n ceisio osgoi creu gormod o drwbl wrth ddilyn stori’r gêm newydd…
Tra bod nifer fawr o adolygwyr eraill ar hyn o bryd yn cael hwyl a sbri efo lliwiau a byd anhygoel Mario Kart 8 (gwelwch adolygiad Fideo Wyth ar YouTube), dwi nôl yn Pays de Llwyd, byd y brownion, neu Chicago i bawb arall.
Wel, fersiwn Ubisoft o Chicago. Neu, i fynd gam ymhellach, fersiwn Ubisoft o bob gêm maen nhw erioed wedi neud yn y pum mlynedd diwethaf. ‘Far Cry 3’, ‘Assassins Creed’, ym, ‘Far Cry’… dilyn yr un trywydd maent, ac yr un mecanwaith i yrru’r plot ymlaen.
Tyrrau’r gelyn, cuddio rownd corneli, dilyn bois o gwmpas y lle. Fi’n deall bod rhannu asedau a syniadau yn gallu gweithio yn dda ond blincin ‘ec.
Tebyg i Da Vinci yn neud y Mona Lisa drosodd a drosodd, un yn y gofod, llall yn y bath. Beethoven dim ond yn sgwennu’r Ninth; mewn dubstep, reggae.
Ond i fod yn deg i Watch_Dogs, o leia’ taw’r Mona Lisa a’r Ninth ydw i’n trafod, galla i wrth gwrs fod yn trafod ei stinkers: y peth tanc ‘na wnaeth Da Vinci cynllunio oedd yn edrych fel un o’r teepees na yn hen ardd Dic Jones.
Byd Agored
Ond fel chi’n gweld, mae ‘na rywbeth am y gêm yma sy’n tynnu rhagfarn negyddol ati, ‘Sgen i ddim ateb pam, agwedd sinigaidd cyffredinol y we falle? Be sy’n bisar yw bod y gêm yn lot o hwyl, ond fi dal ishe pwyntio allan y darnau negyddol yn hytrach na’r rhai da.
Beth sydd ddim yn helpu yw dwi ddim y ffan mwya’ o gemau Byd Agored (am gemau Byd Agored gweler GTA) am resymau naratif. Mae’r plot bron bob tro yn cael ei chwalu gan weithred y chwaraewr wrth iddynt greu uffern ar ddaear i’r dinasyddion digidol truenus.
Ffrwydradau, dwyn ceir, brwydr gynnau yn y stryd! A fi’n un o’r rheiny pan yn chware gemau sy’n real goody-two-shoes. Daf dau-esgid dda ydw i.
Amhosib bod yn gas at unrhyw un, teimlo yn wael ar ôl gyrru dros feic rhywun, helpu pawb a phopeth – fel rhyw fath o gyfuniad rhwng Mother Teresa a Optimus Prime (pwy bynnag sy’n meddwl Teresa Prime nawr neu Optimother, tip i’r dyfodol, peidiwch â malu enw dau beth at ei gilydd a chreu enw newydd, ma’ fe’n ddiog ac yn annoying).
Felly dwi’n gorfod rasio drwy Chicago yn fy nghar er mwyn neud bach o cash ac yn sleisio pawb a phopeth megis torri gwair, ond yn hytrach na gwair, coesau, ar holl beth wedi fframio rownd y cysyniad fod y cymeriad canolog yn rhyw fath o vigilante sydd allan i ddial am farwolaeth ei nith.
Wel, mae ganddo bersonoliaeth amlochrog neu ma’ fe jyst yn esgus poeni am ei nith ‘jyst am y lolz’. Pe bai Ubisoft ond wedi sylweddoli hwn yn y lle cyntaf dwi’n amau y bydd pawb wedi derbyn cymeriad hunllefus, all-out-revenge. Siwtio gem Byd Agored ar ei ben.
Sgiliau di-ri
Ond a yw’r gêm yn dda? Yw e’n haeddu’r llwyddiant? Mewn gair, ydy. Ydy wir, lot o hwyl, llawer o bethau i neud; byddwch chi wrthi am oriau yn y ddinas fywiog yma, ac wrth sôn am y ddinas rhaid sôn am allu Aiden Pearce, y cymeriad canolog a’r stwff mae’n gwneud efo’i ffôn.
Felly mwy neu lai Watch_Dogs yw boi yn Chicago yn mynd o gwmpas y lle yn defnyddio ei ffôn i ‘hacio’ systemau’r ddinas er mwyn dod o hyd i bwy wnaeth achosi ‘damwain’ car laddodd ei nith.
Yn ei ffôn mae botwm hyd sy’n galluogi iddo newid goleuadau traffig (gwd thing), agor gatiau electronig (handi), defnyddio camerâu CCTV (bach yn cripi) ymyrryd efo cyfrifon banc pobl ddiniwed (wel, ie… ym), gorlwytho transistors all beri niwed i unrhyw un agos (bach yn ormod), achosi blackouts anferthol drwy’r ddinas (beth yw motivation y boi ‘ma ‘to?), ffrwydro peipiau tanddaearol, a’r gallu i ladd degau o bobl (I bloody say!), a sbïo drwy gamerâu yn eich ffonau/laptops yn eich tŷ ar bopeth chi’n neud, ie, popeth (paid â chwarae ‘fo hwnna!).
Ma’r rhestr na’n edrych bach yn pointless falle, gormod o wybodaeth am beth mae person yn gallu neud yn y gêm, ond i fi, mae’n arwyddocaol am y gwahaniaeth rhwng y plot – dyn yn dial ar lofruddwyr ei nith – a’r person chi’n tywys o gwmpas y ddinas.
Wrth edrych ar fy ystadegau o’r gêm, ‘civilians killed: 38’. Iasu mawredd, 38! Beth oedd nifer Ted Bundy? Y drafferth yw, fel unrhyw gêm byd-agored fel hon mae’ch galluoedd yn ail-sgwennu cyfeiriad y naratif cyffredinol.
Rhywbeth unigryw?
Mae cychwyn Eiddo Deallusol (Intellectual Property) newydd ym myd gemau cyfrifiadurol yn rhywbeth anodd iawn.
Nid gymaint o ran gwneuthuriad y gêm – mae cant a mil o EDs newydd yn ymddangos ar Steam bob blwyddyn – ond mwy o ran derbyniad gemyddion (TM Daf Prys – gamers) pan mae’n dod at gemau ar ein consolau.
Nid gemau bychain ond y rhai AAA – bois y ceilliau mawr efo cyllidebau bydd yn cadw hyd yn oed bosys ambell Gyngor Sir Cymru yn hapus. Ac mae Watch_Dogs newydd ymuno efo’r cwmni uchel ael yma drwy lansiad anhygoel o lwyddiannus, yn enwedig wrth gofio bod y gêm yn ED newydd.
Fel wedes i, dyw gemyddion, ar y cyfan, ddim yn hoff o newid – dyna pam taw Call of Duty a FIFA sydd ar frig tablau gwerthu bron bob blwyddyn. Cico pêl a saethu gwn. Good times bois, good times (ebychiad hir).
Felly tybiwn i, dyna oll sydd rhaid i Ubisoft sylweddoli ar gyfer Watch_Dogs 2 yw ei fod yn ddigon hawdd *gweud* fod boi yn vigilante, yn dial ar droseddwyr Chicago drwyddi draw.
Ond rhywbeth arall wedyn yw trosglwyddo’r cymeriad i ddwylo trwsgl gemyddion sy’n fwy na hapus i ffrwydro tryciau cymysgu sment wrth iddo eistedd drws nesaf i ambiwlans, sydd mewn tro yn mynd at argyfwng chi newydd greu ond pum munud yn ôl, ‘jyst am y lolz’.