Llun gwneud o bencadlys newydd y BBC
Mae’r BBC wedi cyhoeddi cynlluniau i symud ei phrif bencadlys yng Nghymru i ganol dinas Caerdydd.
Ar hyn o bryd, mae canolfan BBC Cymru Wales yn Llandaf, yng ngogledd orllewin Caerdydd, ac mae’n gobeithio symud i ddatblygiad 150,000 troedfedd sgwâr newydd yn Sgwâr y Brifddinas – ar safle’r orsaf fysiau presennol – erbyn 2018. Bydd yn gartref i dros 1,200 o staff.
Yn ôl y corff darlledu, bydd y ganolfan newydd tua hanner maint yr adeilad presennol ac yn rhatach i’w chynnal.
‘Torri tir newydd’
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, fod y cynlluniau ar gyfer Sgwâr y Brifddinas yn “torri tir newydd”:
“Maen nhw’n darparu cyfle unwaith mewn oes i fynd llawer yn agosach at ein cynulleidfaoedd; i helpu i drawsnewid rhan o’n prifddinas, ac i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i gryfhau enw da Cymru fel cymuned greadigol fyd enwog.
“Mae’r ganolfan ddarlledu newydd yn addo bod yn gartref anhygoel mewn lleoliad anhygoel yng nghanol y cyffro.
“Mae’r cyhoedd yn disgwyl y gorau gan y BBC – a bydd y datblygiad yma, o’r diwedd, yn rhoi’r offer, y dechnoleg a’r cyfleusterau i’n timau rhaglenni wasanaethu ein cynulleidfaoedd am ddegawdau i ddod.”
Astudiaeth o’r cyfleusterau
Daw’r penderfyniad yn dilyn astudiaeth tair blynedd i’r hen gyfleusterau ar y safle presennol yn Llandaf a’r angen cynyddol i foderneiddio’r dechnoleg annibynadwy.
Roedd uwchraddio’r safle presennol yn fwy costus, yn amharu’n fwy ac mae’n debyg y bydden nhw wedi cymryd hirach i’w gorffen.
Mae S4C eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau, mewn egwyddor, i rannu rhai gwasanaethau darlledu gyda’r BBC yn y ganolfan newydd.
‘Diwydiant deinameg’
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r buddsoddiad.
“Ein diwydiannau creadigol yw un o’n meysydd mwyaf deinamig ac sy’n tyfu gyflymaf o fewn yr economi yng Nghymru,” meddai.
“Mae’n arbennig o bwysig i bobol Cymru, sy’n disgwyl gwasanaeth darlledu cyhoeddus sy’n wir gynrychioli gwlad ddeinamig sydd wedi’i datganoli, gyda democratiaeth wleidyddol a diwydiant creadigol sy’n ffynnu.”
‘Newyddion cyffrous’
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Phil Bale: “Dyma newyddion cyffrous iawn i’r ddinas a bydd yn cyflymu ein cynlluniau ar gyfer yr ardal.
“Mae’r math yma o fuddsoddiad ond yn dod unwaith mewn cenhedlaeth. Bydd y porth newydd yn dangos Caerdydd yn ei wir oleuni – prifddinas fodern a byrlymus sy’n tyfu’n gyflym ac sydd â chymaint i’w gynnig i fusnesau a’r rheiny sy’n dewis byw yma.”