Eric Hill
Mae awdur ac arlunydd llyfrau ‘Smot y Ci’, Eric Hill wedi marw’n 86 oed.
Bu farw Hill, oedd yn enedigol o Lundain, yn ei gartref yng Nghaliffornia yn dilyn salwch byr.
Mae 60 miliwn o gopïau o’r llyfrau wedi cael eu gwerthu ledled y byd ac mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg.
Dywedodd ei deulu y bydden nhw’n gweld ei eisiau’n fawr iawn.
Ond dywedon nhw fod ei waith “wedi dod â hapusrwydd i gymaint o blant a theuluoedd”.
Dywedodd y cyhoeddwr Puffin, oedd yn cyhoeddi’r gyfres, fod Eric Hill yn “feistr ar ddylunio syml”.
“Fe greodd un o’r cymeriadau mwyaf hoffus ym myd llyfrau plant – Smot, y ci bach hynod, drwg, chwareus roedd pobol yn ei garu a’i werthfawrogi ledled y byd.”
Dywedon nhw eu bod nhw’n falch o’u cyswllt â’r awdur.
Roedd Hill yn aml yn cyfeirio ato’i hun fel “tad Smot”.
Mae’n gadael gwraig a dau o blant.