Mae disgwyl cyhoeddiad heddiw ynghylch ble fydd pencadlys newydd BBC Cymru.

Mae nifer o opsiynau’n cael eu hystyried yn dilyn penderfyniad y Gorfforaeth haf diwethaf i symud o’r safle presennol yn Llandaf.

Bu’r adeilad yn Llandaf yn gartref i BBC Cymru ers 1966 ac mae disgwyl i staff gael gwybod heddiw i le fyddan nhw’n symud.

Mae’r opsiynau’n cynnwys adeilad newydd sbon naill ai yng nghanol y brifddinas ger Gorsaf Ganolog Caerdydd neu yn y Bae ger adeilad y Senedd.

Gallai’r gwaith o godi adeilad newydd gael ei gwblhau erbyn 2018.

Mae adeiladau presennol BBC Cymru – gan gynnwys adeilad hyfforddi Tŷ Oldfield – ar werth ar hyn o bryd.

Daeth y penderfyniad i werthu’r adeiladau ar ôl i Cadw wrthod eu rhestru oherwydd eu hoedran.