Mae’r awdur Martin Davis wedi datgan mai’r ysbrydoliaeth tu ôl i’w nofel newydd, Broc Rhyfel, oedd arswyd y fasnach ryw.

Broc Rhyfel yw Nofel  Mis Mehefin Cyngor Llyfrau Cymru, ac mae’n mynd â’r darllenydd ar daith i fannau tywyllaf Ewrop gan ddilyn profiadau’r prif gymeriad, Keith Jones, wrth iddo wneud ei ffortiwn yn gwerthu arfau yng Nghroatia.

Mae’r nofel hefyd yn dilyn bywyd Nina Puskar o Sarajevo, a ddenwyd trwy dwyll draw i Iwerddon, lle mae’n cael ei cham-drin yn ddyddiol.

“Y prif sbardun i ysgrifennu Broc Rhyfel oedd gwylio’r ffilm deledu Sex Traffic ar S4C tua deng mlynedd yn ôl,” esboniodd yr awdur o Daliesin.

“Mae pob math o droseddau diflas yn y byd ond mae’r bwlio sinigaidd a didrugaredd sydd wrth wraidd masnachu pobl at ddibenion rhywiol yn rhywbeth arbennig o anghynnes.”

Bydd unrhyw elw a wneir yn sgil gwerthiant Broc Rhyfel yn mynd tuag at goffrau prosiect Eaves’ Poppy Project, elusen sy’n helpu gwragedd sy’n cael eu masnachu yn y diwydiant rhyw.

“Er mai ffrwyth dychymyg yw Broc Rhyfel, does dim prinder deunydd cefndirol am fasnachu pobl,” esboniodd Martin Davis, sydd wedi cyhoeddi tair nofel arall, gan gynnwys Tonnau Tryweryn.

“Yn aml iawn, bydd y fasnach yn ffynnu mewn ardaloedd lle bu rhyfela.”