Sut mae pobl yn teimlo am y ffaith bod Newyddion 9 a Golwg yn dyfynnu negeseuon trydar pobol? Alun Rhys Chivers sy’n trafod….
Dyna’r cwestiwn a gafodd ei ofyn ar wefan Twitter ddoe gan Nest Gwilym (@NestGwilym) ar ei chyfri Twitter ei hun.
Ble mae’r ffin? Gofynnodd Iwan Rhys (@anoracyracen).
Ceisiaf ymateb yn bersonol i’r pwyntiau difyr a dyrys hyn fel newyddiadurwr sy’n ceisio cadw fy mys ar býls y trydarfyd. Siarad fel unigolyn ydw i, ac nid ymateb ar ran Golwg.
Sut mae pobl yn teimlo am y am y ffaith bod Newyddion 9 a Golwg yn dyfynnu negeseuon trydar pobl? Gwbod bod nhw’n gyhoeddus ond…
— Nest Gwilym (@NestGwilym) April 16, 2014
@gutodafydd @caffiffortisimo @siantirdu @NestGwilym @carlmorris Fydde hi ddim yn anfoesgar dyfynnu o lyfr felly ble mae’r ffin? Blog?
— Iwan Rhys (@anoracyracen) April 16, 2014
Tra bod ateb cwestiwn Nest Gwilym yn gofyn am ymchwil helaeth, mae ateb cwestiwn Iwan Rhys ychydig yn haws. Y ffin yw’r cyfrifoldeb arnon ni i aros o fewn y gyfraith a’n dyletswydd i sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei ddweud yn gywir.
Yn syml iawn, mae Twitter yn ffynhonnell gwybodaeth, fel unrhyw ffynhonnell fwy traddodiadol fu gan newyddiadurwyr ers cenedlaethau. Mae newyddiadurwr, wrth reddf, yn defnyddio pob dull posib o gasglu straeon ac o gyfathrebu â phobol. Mae chwilio Twitter bellach yn rhan annatod o ddiwrnod gwaith newyddiadurwyr.
‘Postio’n agored’
Dull o gyhoeddi, yn y pen draw, yw Twitter – i’r newyddiadurwr ac i’r cyhoedd. Postio’n agored wna rhywun wrth drydar – nid yw darllen sylw ar Twitter fel clustfeinio ar sgwrs breifat. Mae’r sylw i’w weld ledled y byd mewn ychydig eiliadau. Mae’n ffordd gyflym a chryno o leisio barn yn hollol agored. Mae hefyd yn ddull cyflym o ddosbarthu gwybodaeth ymhlith y trydarfyd – gall newyddiadurwr wneud hyn, yn union fel y gall aelod o’r cyhoedd wneud, er mwyn tynnu sylw at rywbeth mae rhywun wedi’i drydar. Onid dyna bwrpas ail-drydar?
Dadleuwyd i raddau fod Twitter wedi dechrau disodli’r llythyron traddodiadol at olygyddion. Dyna fantais y wefan gymdeithasol i newyddiadurwr, dyweder, sy’n ysgrifennu erthyglau’n wythnosol. Does dim rhaid aros am ymateb y cyhoedd. Mae’r ymateb ar gael ar unwaith, er nad mewn print traddodiadol ar bapur.
Goblygiadau cyfreithiol
Dyna rai dadleuon o blaid defnyddio Twitter fel newyddiadurwr. Ond er mwyn ateb y cwestiwn hwn yn llawn, rhaid ystyried goblygiadau cyfreithiol dyfynnu pobol yn uniongyrchol pan fyddwn ni’n codi negeseuon oddi ar y wefan.
Yng nghanllawiau Twitter i’w defnyddwyr, mae’r cwmni’n dweud eu bod nhw’n “croesawu ac yn annog y defnydd o Twitter wrth ddarlledu”. Y cyfan sy’n ofynnol, medden nhw, yw fod newyddiadurwr yn dweud o ble ddaeth y dyfyniad. Yn ôl Twitter, ystyr “darlledu” yw “arddangos, dosbarthu, darlledu, ail-gynhyrchu, perfformio’n gyhoeddus neu arddangos yn gyhoeddus” unrhyw negeseuon.
Ond mae’r cwmni hefyd yn nodi bod rhai achlysuron pan nad yw’n dderbyniol dyfynnu rhywun heb ganiatâd, sef er mwyn “awgrymu bod unigolyn yn cymeradwyo cynnyrch mae’r cwmni’n ceisio’i hysbysebu”.
Maen nhw hefyd yn gofyn yn eu canllawiau defnydd i newyddiadurwyr am gyhoeddi enw a handlen yr unigolyn sy’n cael ei ddyfynnu. Dyma un enghraifft, o bosib, lle mae’r cyfryngau’n mynd o’i le. Mae’n gyffredin bellach i ni roi enw’r person ond heb roi’r handlen o reidrwydd, h.y. @hwn-a-hwn.
Mae pob handlen yn unigryw, ond dydy enwau proffil ddim. Am y rheswm hwn, mae cynnwys handlen yn profi mai’r person go iawn sy’n cael ei ddyfynnu, ac nid cyfrif ffug. Mae gan y sawl ofynnodd y cwestiwn bwynt dilys, felly. Efallai bod hyn yn rywbeth i ni’r newyddiadurwyr ystyried.
‘Dyfynnu’n llawn’
Lle bo’n bosib, gofynnir i newyddiadurwr ddyfynnu’r person yn llawn, heb ddileu geiriau. Synnwyr cyffredin yw hynny, wrth gwrs. Mae cyd-destun yn hanfodol i unrhyw stori newyddion.
Un rheol aur i’r newyddiadurwr – os dyfynnu o gwbl, dyfynnu’n gywir. Synnwyr cyffredin eto. Ond dyna feirniadaeth arall o du’r trydarwyr. Mae unrhyw newyddiadurwr call yn anelu at hyn bob tro.
Dw i’n sylweddoli mai crafu’r wyneb ydw i yn fan hyn. Byddai mynd i fanylder ar holl oblygiadau dyfynnu trydariadau’n destun traethawd ymchwil ynddo’i hun. Ond gobeithio fy mod wedi rhoi blas ar rai o’r cwestiynau sy’n codi’n ddyddiol i’r newyddiadurwr sy’n ei ganfod ei hun yng nghanol eangderau’r trydarfyd.
Byddai’n dda clywed eich safbwynt chi. I chi sy’n aelodau o’r trydarfyd, bwrwch neges ata i @alun_rhys. Croeso i chi adael sylw yn y modd traddodiadol, hefyd, wrth gwrs!