‘South Park: The Stick of Truth’ sydd yn cael sylw blogiwr digidol golwg360 Daf Prys yr wythnos hon, yn y diweddaraf o’i gyfres Fideo Wyth.

‘Hwyl, dychan, antur a hiwmor’ yw’r geiriau sydd yn dod i feddwl Daf wrth ddisgrifio’r gêm, ac anodd fyddai i unrhyw un sy’n gyfarwydd â chyfres deledu South Park i anghytuno â hynny.

A yw gwneuthurwyr South Park wedi symud i ffwrdd o’u jôcs anaeddfed yn y gêm hon? Na, siŵr. Ond oes yna ddigon o gomedi a hiwmor craff i ddiddanu chi a’ch ffrindiau am oriau? Gallwch fod yn saff o hynny!

Fideo Wyth Daf Prys (rhybudd – cyfeiriad at gynnwys anaddas):

Beth ydych chi’n ei feddwl o gêm newydd South Park? Gallwch drydar Daf ar @dafprys.