Meri Huws
Bydd cymdeithasau chwaraeon ar draws Cymru yn cynnal cynhadledd heddiw, i drafod cyfleoedd i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r gynhadledd wedi’i threfnu ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, a Chwaraeon Cymru; a bydd Yr Urdd, Mentrau Iaith, S4C, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn rhan ohoni.
Bydd y Comisiynydd yn dangos i gymdeithasau chwaraeon pa gymorth y gall hi ei gynnig i sefydliadau wrth iddynt gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
“Mae’n bwysig bod y Gymraeg yn rhan o ddiwylliant chwaraeon er mwyn galluogi unigolion yng Nghymru i fyw eu bywydau’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg”, meddai Meri Huws.
“Gall cynyddu darpariaeth Cymraeg ym myd chwaraeon gynnig cyfleoedd hollbwysig i bobol ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol tu allan i’r ysgol.”
Sefydlu Tasglu
Ym mis Gorffennaf 2013, penderfynodd Comisiynydd y Gymraeg â phrif weithredwyr y cymdeithasau chwaraeon sefydlu tasglu i ystyried pa gamau y gall y sefydliadau llywodraethu chwaraeon eu cymryd i gynyddu eu darpariaeth Cymraeg.
Un o argymhellion y tasglu oedd cynnal digwyddiad i rannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth y sector o fanteision cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Dyma yw sail y gynhadledd hon.
‘Adnoddau dysgu Gymnasteg dwyieithog’
Dywedodd Rhian Gibson, Prif Weithredwr Gymnasteg Cymru: “Rydym wedi cynyddu nifer yr hyfforddwyr sy’n gallu cynnig sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn cynnig adnoddau dysgu Gymnasteg dwyieithog ac yn gweithio gyda’n clybiau i ddarparu gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae angen a galw am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymarfer corff – ac mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau fod hyn yn digwydd.”