Mae awdurdodau yn China yn chwilio eu tiroedd am unrhyw arwydd o’r awyren Malaysia Airlines MH370 sydd wedi bod ar goll ers 8 Mawrth.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd iddi yn canolbwyntio ar ardaloedd i’r de a’r gogledd o’r man lle cofnodwyd y cysylltiad diwethaf â’r awyren.

Roedd yr awyren yn cludo 239 o deithwyr – gyda 154 yn dod o China, ac mae Llysgennad China wedi cadarnhau nad oedd gan y teithwyr hynny gysylltiad â therfysgaeth.

Dirgelwch

Mae timau achub o sawl gwlad wedi bod yn chwilio am yr awyren, ond heb ddod o hyd i unrhyw olion hyd yn hyn.

Roedd ar ei ffordd i Beijing, prifddinas China, ar ôl cychwyn ar ei thaith o Kuala Lumpur.

Mae Prif Weinidog Malaysia wedi dweud fod yr awyren wedi gwyro o’i llwybr yn fwriadol, a’i bod wedi  hedfan am chwe awr wedi iddi ddiflannu’n llwyr oddi ar sgriniau radar y byd.