Milwr o Rwsia yn y Crimea
Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin wedi amddiffyn ymyrraeth ei wlad yn y Crimea gan ddweud bod y bleidlais ddydd Sul i ymuno a Rwsia yn unol â chyfraith ryngwladol.

Mewn darllediad ar deledu’r wlad dywedodd bod y refferendwm yn un teg ac yn adlewyrchu ewyllys y bobl. Roedd mwyafrif y trigolion yno wedi pleidleisio o blaid torri’n rhydd o’r Wcráin ac ymuno a Rwsia.

Mae Putin yn gwadu cyhuddiadau gan wledydd y Gorllewin bod Rwsia wedi anfon milwyr yno cyn y refferendwm er mwyn dylanwadau ar y bleidlais, gan ddweud bod cytundeb gyda’r Wcráin sy’n caniatáu i Rwsia gael hyd at 25,000 o filwyr yn y Crimea.

Mae arweinwyr Rwsia a’r Crimea wedi arwyddo cytundeb heddiw i wneud y rhanbarth yn rhan o Rwsia.

G8 – gwahardd Rwsia

Yn y cyfamser mae arweinwyr yr G8 wedi gwahardd Rwsia rhag cymryd rhan yn y grŵp oherwydd tensiynau yn yr Wcráin ac ymyrraeth Rwsia yn y Crimea, meddai gweinidog tramor Ffrainc, Laurent Fabius.

Roedd saith aelod arall y grŵp eisoes wedi gohirio’r trefniadau ar gyfer uwch-gynhadledd y G8 yn Sochi ym mis Mehefin.

Nid oedd Laurent Fabius  yn fodlon datgelu unrhyw fanylion pellach.

Mae’r Unol Daleithiau a’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi sancsiynau newydd yn erbyn Rwsia heddiw yn dilyn ei ymyrraeth ym Mhenrhyn y Crimea.