Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi taro nôl yn erbyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl iddo ddweud mai Caerdydd ddylai dalu am drydaneiddio rheilffyrdd yn Ne Cymru.

Ar ôl i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones fynegi pryder ddoe nad oedd Llywodraeth San Steffan wedi cynnig ymrwymiad clir i ariannu’r prosiect, fe fynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones fod y ddwy ochr eisoes wedi dod i ‘gytundeb’.

Ond fe fynnodd Carwyn Jones heddiw nad oedd hynny’n wir – gan gyfeirio at nifer o ddatganiadau o du Llywodraeth San Steffan yn awgrymu mai nhw oedd am ariannu’r gwaith.

“Mae’r sylwadau hyn yn syfrdanol,” meddai llefarydd ar ran y Prif Weinidog. “Maen nhw’n gwrthddweud sylwadau Prif Weinidog [Prydain, David Cameron] yn ogystal ag Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru a’r un cynt.

“Gall pobl weld ar y record yn union beth mae Llywodraeth y DU wedi’i ddweud ar y mater hwn, ac fe allen nhw farnu dros eu hunain sylwadau David Jones.”

Ymysg y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru yn honni oedd yn awgrymu mai San Steffan fyddai’n cymryd cyfrifoldeb dros ariannu’r trydaneiddio mae cyhoeddiad gan y cyn-ysgrifennydd Gwladol Cheryl Gillan o gynlluniau Llywodraeth Prydain yn 2012.

Maen nhw hefyd wedi cyfeirio at sylwadau gan arweinydd Ceidwadwyr Cymru Andrew RT Davies a David Jones yn croesawu’r cyhoeddiad, yn ogystal ag awgrym David Cameron pan yng Nghymru’n ddiweddar mai ei lywodraeth ef oedd yn gyfrifol am y prosiect.

Ceidwadwyr yn un

Heddiw fe gadarnhaodd llefarydd ar ran grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wrth golwg360 eu bod yn cefnogi safbwynt David Jones ar y mater.

Ac fe ddywedodd Andrew RT Davies ei fod wedi’i synnu gan sylwadau Carwyn Jones yn ogystal.

“Fe wnaeth sylwadau’r Prif Weinidog synnu dipyn o bobol ddoe wrth ystyried bod hwn yn fuddsoddiad sylweddol,” meddai Andrew RT Davies. “Mi roedd eglurder o gwmpas y buddsoddiad hwnnw yn eithaf eglur.

“Wrth edrych ar yr ohebiaeth sydd wedi mynd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth mae hi’n eithaf amlwg lle mae angen i’r cyllid ddod.

“Rwy’n meddwl mai Llywodraeth Cymru sy’n ceisio dargyfeirio hyn yn ôl wrth ystyried record ofnadwy (Llywodraeth Cymru) sydd wedi ei amlygu mewn iechyd ac addysg.”

Dryswch medd Plaid

Ond yn dilyn yr anghydfod mae Plaid Cymru wedi galw am fwy o dryloywder rhwng llywodraethau Cymru a San Steffan ynglŷn â beth yn union gytunwyd arni pan drafodwyd trydaneiddio’r rheilffyrdd ddwy flynedd yn ôl.

“Mae yna ddryswch a blerwch mawr ynglŷn â hyn,” meddai llefarydd economi a menter Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

“Yn gyntaf, mi ddylai Llywodraeth Prydain fod yn talu am hyn, does yna ddim byd yn y trefniadau ariannol ar gyfer cyllid Cymru o San Steffan sy’n ymwneud a’r buddsoddiad yma o isadeiledd.

“Beth sy’n amlwg dros yr oriau diwethaf ydi bod dryswch mawr o Lywodraeth Cymru ynglŷn â beth oedd y cytundeb gafodd ei gytuno ddwy flynedd yn ôl.”