Rhun ap Iorwerth
Rhaid i Gyllideb Prydain, sy’n cael ei gyhoeddi gan y Canghellor George Osborne yfory, gynnwys camau i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd economaidd sy’n bodoli ledled Prydain.
Dyna neges llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, sy’n galw am Fil Tegwch Economaidd i ail-gydbwyso’r economi ar seiliau daearyddol a sectorol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod perygl fod twf yn ne-ddwyrain Lloegr yn “cuddio’r cyfnod maith o galedi estynedig a deimlir mewn mannau eraill”.
“Unwaith eto, mae’r ffigyrau diweddar yn amlygu’r anghydbwysedd rhwng economïau ledled Prydain, a gwyddom fod llawer o’r twf presennol i’w briodoli i swigen prisiau tai yn Llundain, a chynnydd enfawr mewn dyledion personol,” meddai Rhun ap Iorwerth AC.
“Dyma lawer o’r un ffactorau ag o’r blaen – a does dim yn cael ei wneud i atal hanes rhag ail-adrodd ei hun.
“Dyna pam fod Plaid Cymru yn galw am Fil Tegwch Economaidd i ail-gydbwyso’r economi ar seiliau daearyddol a sectoraidd fyddai’n sicrhau dosbarthiad twf tecach ac atal Llundain rhag gorboethi.”
Rheilffyrdd
Mae Rhun ap Iorwerth wedi tynnu sylw at ymgyrch Plaid Cymru am arian dilynol Barnett i ddod i Gymru o unrhyw wariant arfaethedig ar rwydwaith rheilffordd gyflym yr HS2 yn Lloegr.
“Bydd Plaid Cymru hefyd yn cadw llygad barcud ar gyhoeddiadau am ddyfodol HS2”, meddai.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu nad oes cytundeb, hyd yn oed am gyllido trydaneiddio yng Nghymru, heb sôn am reilffyrdd cyflym.
“Fel y dywedodd Plaid Cymru eisoes, ac y byddwn yn dweud eto – rhaid cael arian dilynol Barnett llawn o HS2 i ddod i Gymru.”
Daw’r cyhoeddiad wrth i ffrae gorddi rhwng Llywodraeth Cymru a San Steffan ynglŷn â phwy ddylai dalu am drydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymoedd y De.