Jane Hutt
Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynyddu buddsoddiad cyfalaf i Lywodraeth Cymru, a fyddai’n golygu fod modd i’r Llywodraeth barhau i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith allweddol yng Nghymru.

Cyn i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi ei Gyllideb ddydd Mercher, fe ysgrifennodd Jane Hutt at Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddefnyddio’r Gyllideb i hybu twf economaidd a gwarchod swyddi.

“Rydym wedi  croesawu’r buddsoddiad seilwaith ychwanegol yn y cyllidebau dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi defnyddio’r cyllid yma i hybu swyddi a thwf economaidd – er i’n buddsoddiad cyfalaf  gael ei dorri o 31% rhwng 2009-10 a 2015-16.

“Ond mae gennym le i hybu’r economi hyd yn oed yn fwy, ac mae gennym gynlluniau i wneud hynny sydd angen buddsoddiad ychwanegol.

“Rwy’n annog Llywodraeth Prydain i gynyddu’r buddsoddiad cyfalaf, er mwyn i ni allu cynnal y twf economaidd sydd ei angen ar Gymru a Phrydain.

“Ond nid drwy wneud toriadau ychwanegol i gyllid refeniw a fyddai’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae angen gwneud hyn.”

Gwaith atgyweirio ar ôl y stormydd

Mae Jane Hutt hefyd wedi galw am fwy o hyblygrwydd yn y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei gario drosodd o 2013-14 i 2014-15, er mwyn gallu cyllido gwaith atgyweirio ar ôl y stormydd dros y gaeaf.

“Nid yw Cymru wedi cael unrhyw gyllid ychwanegol o’r cyhoeddiadau a gafodd eu gwneud yn Lloegr.

“Byddai cario’r cyllid ymlaen yn golygu ein bod yn gallu gwneud y gwaith ar amddiffynfeydd morol sydd ei angen ar ôl y stormydd, a byddai’n rhoi cymorth i adfer y diwydiant twristiaeth.”