Edwina Hart a chynrychiolwyr AIC Steel yn y safle newydd yng Nghasnewydd
Mae cwmni dur o’r Dwyrain Canol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £10m yn hen safle Rowecord yng Nghasnewydd er mwyn creu 120 o swyddi.

Bydd AIC Steel yn agor eu canolfan cynhyrchu dur cyntaf ym Mhrydain ar y safle wyth acer, gan agor swyddfa yn Llundain hefyd er mwyn ceisio denu prosiectau mawr i’r safle.

Yn ôl y cwmni maen nhw eisoes yn cyflogi rhai o’r 430 a gollodd eu swyddi pan aeth Rowecord i’r wal yn 2013, gan amcangyfrif y byddai modd cynhyrchu tua 20,000 tunnell o ddur ar y safle bob blwyddyn.

Ac fe ddywedodd prif weithredwr AIC Steel ym Mhrydain, Michael Treacy, eu bod yn falch iawn o fod wedi gallu buddsoddi yn y safle.

‘Gweithlu â sgiliau’

“Rydym ni wrth ein bodd o allu cyhoeddi’r buddsoddiad hwn ac ymrwymiad hirdymor i Gasnewydd,” meddai Michael Treacy.

“Ar ôl gweithio ar nifer o brosiectau mawr yn y DU roedd yn gam naturiol sefydlu presenoldeb yma. Rydym ni’n targedu nifer o gyfleoedd ym marchnad y DU.

“Fe ddewison ni Gasnewydd fel ein canolfan gynhyrchu oherwydd bod diwylliant yma sydd yn cefnogi diwydiant trwm ac oherwydd bod gweithlu â sgiliau uchel yma.”

Cafwyd croeso hefyd i’r cyhoeddiad gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart, a ddywedodd fod y cyhoeddiad yn arwydd “fod Cymru’n le gwych i wneud busnes”.

‘Rhyddhad’

Ac fe ddywedodd un o gyn-weithwyr Rowecord, Mark Thorpe o Bontymister, ei fod yn rhyddhad mawr cael cynnig gwaith ar y safle newydd.

“Fe ymunais a Rowecord fel prentis yn syth o’r ysgol 20 mlynedd yn ôl,” meddai Mark Thorpe. “Roeddwn i wrth fy modd â’m gwaith felly pan gollais i fy swydd roedd yn ergyd fawr.

“Mae wedi bod yn flwyddyn anodd felly roeddwn i wrth fy modd pan gefais gynnig swydd newydd. Mae’n gyffrous gweld yr hen le’n dod yn fyw unwaith eto ac mae’n grêt bod yn ôl!”