Mae’r cyflwynydd teledu Noel Edmonds wedi beirniadu gwariant y BBC ar raglenni iaith Gymraeg, gan ddweud fod y gorfforaeth yn wynebu “dinistr” os nad yw’n newid yn fuan.

Dywedodd Edmonds – sy’n cyflwyno Deal or No Deal ar Channel 4 – ei fod yntau a buddsoddwyr cyfoethog eraill oedd yn cytuno ag ef yn ystyried ceisio prynu’r BBC er mwyn rhoi chwa o awyr iach iddi.

Mewn cyfweliad â Newsnight fe ddywedodd Edmonds nad oedd am weld Prydain yn colli’r BBC, a bod angen dylanwad o’r tu allan os oedd am fod yn “berthnasol yn oes y rhyngrwyd”.

Fe feirniadodd wariant presennol y gorfforaeth mewn rhai meysydd, megis cynnwys yn y Gymraeg a Gaeleg, a Gwasanaeth y Byd y BBC, gan awgrymu bod ffyrdd gwell o wario’r ffi drwydded.

“Rydym ni’n credu fod y BBC yn wynebu dinistr ac y bydd y BBC yn cael ei golli i Brydain a dydyn ni ddim yn credu fod hynny’n iawn,” meddai Noel Edmonds.

“Mae hwn yn sefyllfa ddifrifol ble mae’r BBC, oherwydd ei thrafferthion gyda’r ffordd y mae’n cael ei hariannu, ei llwyth hanesyddol a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol, mae ei dyfodol yn y fantol.

“Mae’n glaf sydd ar ei gwely angau ac mae angen grym o’r tu allan i’w gwella a’i gwneud yn ffit ar gyfer byd na allwn ni fod wedi’i ragweld degawd yn ôl.”

Cwtogi’r Gymraeg?

Dywedodd Edmonds fod ei gynllun – sydd wedi cael y llysenw Prosiect Reith ar ôl cyfarwyddwr cyntaf y BBC – wedi ceisio amcangyfrif gwerthoedd presennol a dyfodol y gorfforaeth.

Ond fe gyfaddefodd nad oedd ganddo syniad o gwbl beth fyddai pris prynu’r BBC.

A doedd chwaith ddim am ddatgelu sut y byddai amserlen y sianeli’n edrych petai’n cael ei ffordd – er iddo awgrymu meysydd ble y gellir cwtogi gwariant.

“Oherwydd y llwyth hanesyddol mae gennym ni sefyllfa hurt ble mae’r ffi drwydded yn talu am Wasanaeth y Byd,” meddai Edmonds.

“Dyw’r rhan fwyaf o bobl Prydain ddim hyd yn oed yn gwybod sut i gael Gwasanaeth y Byd.

“Mae 50,000 o bobl yn siarad Gaeleg. Mae’r iaith Gymraeg wedi bod yn dirywio ers degawd ac mae’r BBC yn gwario £48miliwn ar hwnnw.”

Ond pan ofynnwyd iddo a oedd ef ei hun yn talu’r ffi drwydded, dywedodd: “Does gen i ddim trwydded deledu. Dwi ddim yn ei wylio heblaw’r gwasanaeth dal lan ar-lein.”