Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s wedi cyhoeddi gostyngiad mewn gwerthiant am y tro cyntaf ers naw mlynedd.
Dywed y cwmni bod eu gwerthiant wedi gostwng 3.1% yn y 10 wythnos hyd at 15 Mawrth – y gostyngiad cyntaf ar ôl cyhoeddi twf mewn gwerthiant am y 36 chwarter yn olynol.
Dywedodd pennaeth y grwp Justin King bod y farchnad yn wynebu “cyfnod heriol” gyda chwsmeriaid yn troi at gwmnïau bwyd rhatach fel Aldi a Lidl.
Er bod arwyddion bod yr economi yn gwella dywedodd bod y rhagolygon ar gyfer cwsmeriaid yn parhau’n heriol am y flwyddyn nesaf.
Dywedodd na fydd Sainsbury’s yn dechrau ymgyrch i dorri prisiau ond yn hytrach yn pwysleisio “gwerth am arian” eu nwyddau eu hunain.