Mae ysgol gyfun yng Nghwm Tawe ynghau heddiw ac am y ddeuddydd nesa’ am fod aelodau dau o undebau’r athrawon ar streic.

Maen nhw’n protestio am fod Llywodraethwyr Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais wedi dewis mabwysiadu trefn gyflogau a phensiynau sy’n cael ei hargymell yn Lloegr.

Yn ôl undebau’r NASUWT a’r NUT, mae’r newidiadau hynny’n effeithio’n wael ar gyflogau athrawon ac yn cael eu gwrthwynebu gan Lywodraeth Cymru hefyd.

Mewn datganiad, maen nhw’n galw ar i rieni feio’r Llywodraethwyr a Chyngor Sir Powys am y streic, yn hytrach na’r athrawon.

Fe allai’r streic fod yn achos prawf gan fod Powys a phartneriaeth addysg ERW – sy’n gweithio tros ganolbarth a gorllewin Cymru – yn annog ysgolion i fabwysiadu’r polisi newydd sy’n golygu nad oes rhaid cynnal cyflog athro sy’n symud o un ysgol i’r llall.

‘Methu â thrafod’

Yn ôl David Evans, Ysgrifennydd yr NUT yng Nghymru, mae’r Llywodraethwyr wedi methu â trhafod ac mae’n honni bod cynrychiolwyr yr athrawon ar y Llywodraethwyr wedi eu cadw allan o gyfarfodydd.

Y ddadl o’r ochr arall yw ei bod yn arferol i gynrychiolwyr adael os yw cyfarfod yn trafod eu cyflogau a’u hamodau nhw.

Mae pennaeth Ysgol Maesydderwen wedi sgrifennu at bob rhiant yn esbonio nad yw hi’n ddiogel i agor yr ysgol tros y tridiau nesa’ oherwydd y streic.

Ymateb y Llywodraethwyr

Yn ôl Sally Speedy a Chadeirydd y Llywodraethwyr Hugh Pattrick, maen nhw’n siomedig iawn bod eu hysgol nhw’n wedi cael ei dewis gan yr undebau i fod yn esiampl.

“Bydd gweithredu diwydiannol yn amharu’n sylweddol ar addysg ein plant ar amser allweddol,” medden nhw.

“Nid Ysgol Maesydderwen yw’r unig ysgol i fabwysiadu’r polisi hwn ac mae eisoes wedi cael ei fabwysiadu gan fwyafrif y 500 o ysgolion yn ardal ERW.”

Ar un adeg, roedden nhw wedi gobeithio agor yr ysgol i ddisgyblion rhai blynyddoedd ond, bellach, maen nhw’n dweud bod hynny’n amhosib am fod mwyafrif yr athrawon ar streic.