Traeth yng Nghymru yw’r gorau yng ngwledydd Prydain a’r trydydd gorau yn Ewrop yn ôl cwmni ar-lein TripAdvisor.
Mae arolwg gan y cwmni hefyd yn dweud mai traeth Rhosili ar Benrhyn Gwyr yw’r nawfed gorau yn y byd i gyd.
Yn ôl y Gweinidog Economi, Edwina Hart, fe fydd y newyddion yn rhoi hwb i dwristiaeth yng Nghymru, yn enwedig yn union cyn gwyliau’r Pasg.
Mae ffigurau gan yr adran dwristiaeth, Croeso Cymru, yn awgrymu bod cynnydd o 8% wedi bod y llynedd yn yr ymwelwyr a ddaeth i Gymru o weddill gwledydd Prydain.
Mae defnyddwyr TripAdvisor wedi gosod Ynys Môn hefyd ymhlith deg ynys orau gwledydd Prydain ac, yn ôl cwmni llyfrau tywys y Rough Guide, Cymru yw un o’r pump lle i fynd iddyn nhw eleni.