Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, a’r Gweinidog Chwaraeon, John Griffiths, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1.78 miliwn ar gyfer rhaglen Llythrennedd Corfforol i Ysgolion (PLPS).
Nod y rhaglen yw hybu Addysg Gorfforol ymysg disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru, a’u helpu i fabwysiadau ffordd iach o fyw.
Daw’r cyllid yn dilyn argymhellion y Farwnes Tanni Grey-Thompson a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol – a fu’n ceisio sicrhau bod llythrennedd corfforol yr un mor bwysig â darllen ac ysgrifennu o safbwynt datblygiad.
‘Allweddol i’r genhedlaeth nesaf’
Dywedodd Huw Lewis: “Bydd y cyllid yn golygu fod disgyblion yn gwneud mwy o Addysg Gorfforol, yn enwedig mewn ysgolion sydd mewn cymunedau difreintiedig.
“Fe ddylai pob plentyn yng Nghymru gael addysg gorfforol o ansawdd uchel ac fe ddylai pob ysgol werthfawrogi pwysigrwydd ymarfer corff i wella iechyd eu disgyblion.”
Ychwanegodd Tanni Grey-Thompson: “Mae gan ymarfer corff gymaint o fuddion ac fe ddylem ni fod yn gwneud popeth y gallwn ni i ddarparu plant a phobol ifanc gyda’r sgiliau a’r hyder i fwynhau perthynas gyda chwaraeon.”
Yn ôl y Gweinidog Chwaraeon John Griffiths: “Mae gan ysgolion ran bwysig iawn i’w chwarae wrth siapio bywydau plant. Nid yw pwysigrwydd llythrennedd corfforol erioed wedi bod mor allweddol i’r genhedlaeth nesaf.”