Daf Prys
Os yw Microsoft yn credu fod gêm Titanfall am wneud i ragor o bobl brynu Xbox One yna maen nhw’n hurt, meddai Daf Prys …
Gyda gêm fwya’r Xbox One, Titanfall, ar y gorwel mae Microsoft yn bwriadu gostwng pris y system o £429 lawr i £399 o ddydd Gwener ymlaen, gyda’r gêm yn dod am ddim efo’r system (fel lawrlwythiad digidol).
Dyw’r gostyngiad yma ond yn digwydd ym Mhrydain, ond peidiwch â theimlo’n rhy wael dros bobl eraill y byd. Mae’r system yn weddol ‘rhad’ yn yr UDA, yn costio $499 – tua £299 (heb unrhyw dreth na chostau ‘morio’ wrth gwrs).
Ond ta waeth, y pwynt yw nad yw’r Xbox One wedi cael ei lansio ers pedwar mis hyd yn oed, ac yn barod mae Microsoft yn edrych i ostwng y pris. Cic tîn i’r rheiny oedd yn barod i brynu’r peth adeg y lansiad.
Gyda niferoedd gwerthiant y Playstation4 yn rhoi chwip dîn i’r Xbox One ym Mhrydain, hawdd gweld pam bod Microsoft am wneud y mwya’ o’i hamser efo’i ‘gloryboy’. Wedi dweud hynny mae sawl peth yn denu sylw.
System Seller
Gyda Titanfall ma’ bois Xbox yn gobeithio taw dyma yw’r gêm fydd yn gosod yr Xbox One yng nghartrefi pobl – ‘system seller’. Gêm mor ddeniadol sy’n peri i bobl golli’u brêns a phrynu console newydd, jyst i chwarae’r peth.
Dwi wedi cwympo am hwn o’r blaen. Nôl yn 1992 roedd *rhaid* i fi gal Super Mario World, a’r unig ffordd i chwarae’r peth oedd ar y Super Nes. Duw – dyddie da.
Ond dyma ni yn nyddie Titanfall: y gêm ma’ nhw’n dweud fydd yn cipio coron Call of Duty. Hon yw gêm fawr y genhedlaeth gynnar (medd Microsoft a llawer o’r wasg Americanaidd) ac ond yn ymddangos ar Xbox One.
Wel, i ryw raddau. Mae’n ymddangos ar y PC hefyd. Ac ar Xbox 360. Ie, y 360, y system sydd gan y rhan fwyaf o gêmwyr y byd yn barod.
Beta Trailer Titanfall:
Yn bersonol dwi’n meddwl fod Microsoft yn wallgof os bod nhw’n meddwl fod pobl yn mynd i brynu’r system Xbox One newydd i chwarae’r gêm yma, yn hytrach na defnyddio’r Xbox 360 sydd ganddyn nhw’n barod.
Felly’r dewis yw chwarae’r gêm ar ei ffurf orau ar y PC am tua £30, chwarae’r gêm yn ei ffurf waethaf – ond siŵr o fod yn ddigon taclus – ar y 360 am £40, neu ar ei ffurf ganolig ar yr Xbox One am £400.
Jôc dda chwarae teg. (Dwi hefyd yn anwybyddu’r ffaith fod angen broadband a thanysgrifiad Xbox Live sy’n costio £40 y flwyddyn).
Gwaith da i EA
Electronic Arts sy’n cyhoeddi’r gêm, a Respawn sydd wedi ei ddatblygu. Mae’r ddêl yma’n gweithio allan yn dda iawn iddyn nhw, yn dda iawn yn wir.
Yn amlwg ma’ nhw wedi derbyn arian mawr i drwyddedu’r gêm i lwyfannau Microsoft yn unig, ac ar ben hwn yn cael lansio dros y ddau wahanol Xbox.
Mae’r ddêl yn dda iawn hefyd i’r rheiny sydd wedi cadw gafael ar eu 360. Fe gawn nhw chwarae’r gêm fel maen nhw wastad wedi neud.
Ond breuddwydio mae Microsoft os fod nhw’n credu fod y gêm yma am wthio pobl i brynu Xbox One. £400 am Titanfall? Nonsens.
Gallwch ddilyn Daf ar Twitter ar @dafprys.