Oscar Pistorius
Mae barnwr yn Ne Affrica wedi dyfarnu y gall rhannau o achos llofruddiaeth yr athletwr Oscar Pistorius gael eu darlledu’n fyw.

Ond fe fydd na gyfyngiadau yn ystod tystiolaeth gan dystion yn ystod yr achos, sy’n cychwyn wythnos nesaf,  medd y barnwr Dunstan Mlambo. Fe fydd cyfyngiadau hefyd ynglŷn â darlledu sgyrsiau preifat rhwng Pistorius a’i gyfreithwyr.

Roedd cyfreithwyr Pistorius wedi dadlau na fyddai’n cael achos teg petai’r achos yn cael ei  darlledu.

Mae’r athletwr Olympaidd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei gariad, Reeva Steenkamp, ar 14 Chwefror y llynedd.