Mae Cyngor Torfaen yn bwriadu cymryd nifer o gamau i wella eu darpariaeth Gymraeg gan gynnwys gwneud swyddi rheng flaen yn hanfodol Cymraeg, yn dilyn ymgyrchu gan aelodau Cymdeithas yr Iaith.
Fel rhan o’r newidiadau o fis nesaf ymlaen fe fydd y cyngor yn cyflogi cyfieithydd llawn amser ychwanegol.
Bydd y cyngor hefyd yn gwneud swyddi gofal cwsmer yn Gymraeg hanfodol, ac yn sicrhau cyllid ar gyfer cyrsiau Cymraeg dwys i weithwyr y cyngor.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith fe gymeradwyodd y cyngor y newidiadau hyn yn dilyn ymchwiliad gan bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r cyngor, ble cynigiodd y mudiad iaith dystiolaeth.
Bu’r cyngor hefyd yn llythyru a chynnal cyfarfodydd gydag aelodau cell leol Cymdeithas, ac mae’r mudiad iaith wedi dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen” at weld y ddarpariaeth Gymraeg yn ehangu yn sgil y newidiadau.
Cyflawni “gwyrthiau”
Dywedodd swyddog lleol Cymdeithas yr Iaith fod aelodau wedi gwneud “gwyrthiau” wrth annog Cyngor Torfaen i gymryd y camau hynny.
“Mae’n haelodau yn yr ardal wedi cyflawni gwyrthiau o dan yr amgylchiadau, maen nhw’n haeddu diolchiadau lu am eu gwaith,” meddai Swyddog Maes y De Euros ap Hywel.
“Mae wedi cymryd dros flwyddyn a hanner o ymgyrchu caled, ond, yn y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld y Cyngor yn cymryd camau ymlaen.
“Yn aml, mae Cymry Cymraeg yr ardal yma’n cael eu diystyru, ond mae yna lawer o siaradwyr Cymraeg yma, ac ry’n ni hefyd am fyw yn Gymraeg.
“Mae na dwf yn y galw am addysg Gymraeg, gyda mwy a mwy o rieni yn anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Gobeithiwn weld hyn yn parhau yn y dyfodol. Byddwn yn falch o weld cefnogaeth y Cyngor i’r twf hyn yn cryfhau.”
Ond fe feirniadodd y mudiad Gomisiynydd y Gymraeg am beidio â chadw mewn cysylltiad ynglŷn â’r mater.
“Yr hyn sydd yn siomedig yw nad yw Comisiynydd y Gymraeg wedi cadw cysylltiad gyda ni fel ein bod ni’n gwybod beth sydd yn digwydd,” meddai Euros ap Hywel.
“Er iddi gynnal ymchwiliad a dod i’r canlyniad bod y cyngor wedi torri’r cynllun iaith, prin oedd y wybodaeth gawson ni yn gyffredinol.”