Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi £12miliwn o arian ychwanegol tuag at ddatblygu band eang cyflym iawn (superfast broadband) yng Nghymru.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, bydd yr arian yn gymorth i fusnesau bach a chreu swyddi yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud y byddan nhw’n medru defnyddio’r arian i sicrhau bod hyd yn oed mwy o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn gallu derbyn band eang o’r radd flaenaf.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod dros 100,000 o gartrefi yng Nghymru eisoes yn elwa o fand eang cyflym iawn o ganlyniad i’w cynlluniau nhw.
Mae £57m eisoes wedi’i fuddsoddi i gynllun Cyflymu Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y bydd 96% o gartrefi Cymru’n elwa o’r rhyngrwyd cyflym erbyn 2016.
‘Gorau’n y byd’
Wrth wneud y cyhoeddiad dywedodd Maria Miller fod hwn yn rhan o gynllun i roi Prydain ymysg goreuon y byd am gyflymder cysylltu i’r we.
“Bydd pawb yng Nghymru yn elwa o fand eang cyflym iawn – boed nhw ei angen i weithio, gwneud gwaith cartref neu jyst lawrlwytho cerddoriaeth a ffilmiau,” meddai Maria Miller.
“Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr mai Prydain yw un o’r gwledydd gorau’n y byd am ryngrwyd band-llydan, ac fe fydd yr arian ychwanegol yr ydym ni’n ei fuddsoddi’n sicrhau nad yw cymunedau yn y DU yn cael eu gadael ar ol.”
‘Uchelgeisiol’
Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru, mai eu cynlluniau nhw oedd y rhai mwyaf uchelgeisiol ym Mhrydain.
“Ein cynlluniau ar gyfer band eang ffeibr cyflym iawn yw’r rhai mwyaf uchelgeisiol yn y DU,” meddai Ken Skates. “Rydyn ni am sicrhau bod llawer iawn o eiddo yn gallu derbyn y math hwn o fand eang yn gyflymach.
“Er gwaethaf ein huchelgais ni, bydd nifer bach o eiddo na fydd yn gallu ei dderbyn o hyd.
“Ond, mae’r arian ychwanegol hwn a gyhoeddwyd heddiw, ynghyd â chanfyddiadau ein hadolygiad, yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o fusnesau a chartrefi yn gallu manteisio ar fand eang ffeibr cyflym.”