Mae Cyngor Sir Powys wrthi’n trafod toriadau i’w cyllideb mewn cyfarfod heddiw i geisio arbed £20 miliwn.

Bydd aelodau’r cyngor yn ystyried cynigion i dorri nifer o wasanaethau yn y sir a chodi ffioedd ychwanegol am eraill.

Bydd y cyngor hefyd yn cynnig codi pris treth cyngor o 3.95%, er na fydd hynny’n cael ei benderfynu’n derfynol yn y cyfarfod heddiw.

Mae disgwyl i grŵp wrthblaid y Ceidwadwyr gynnig cyllideb amgen eu hunain hefyd yn y cyfarfod.

Mae’n bosib y bydd hyd at 400 o weithwyr hefyd yn colli’u swyddi yn y newidiadau, wrth i’r cyngor orfod arbed £40m erbyn 2017.

Roedd nifer o brotestwyr eisoes wedi ymgasglu y tu allan i adeilad y Cyngor yn Llandrindod heddiw i brotestio am y  toriadau arfaethedig.

Dechreuodd y cyfarfod am 10.30yb heddiw, gyda’r Cynghorydd Dai E Davies yn cyflwyno’r cynlluniau gan ddweud mai “hon yw un o’r cyllidebau anoddaf y mae Cyngor Sir Powys erioed wedi’i wynebu”.

Toriadau a chodi costau

Mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi penderfynu haneru grant Cyngor ar Bopeth y sir yn y flwyddyn ariannol nesaf, cyn dod â’r grant i ben yn gyfan gwbl ar ôl hynny.

Mae nifer o gynigion y gyllideb yn debygol o effeithio ar yr henoed, gyda chau canolfannau henoed, dod a gwasanaethau ‘pryd-ar-glud’ i ben a chynyddu ffioedd canolfannau dydd i gyd yn cael eu cynnig.

Bydd y cyngor hefyd yn ystyried codi rhagor o arian drwy ffioedd ychwanegol, gan gynnwys ar drafnidiaeth addysg ôl-16 a meysydd parcio.

Maen nhw hefyd yn gobeithio arbed bron i £6.5m wrth ail-strwythuro staff a gwneud gwasanaethau yn fwy effeithiol.

Mae disgwyl i’r cynghorwyr drafod y gyllideb am rai oriau eto, ac mae modd gwylio’r drafodaeth yn fyw ar ffrwd o wefan y Cyngor.