Mae Menter Iaith Gorllewin Sir Gar wedi dwyn perswâd ar y Carmarthern Journal i ail gyflwyno’r dudalen Gymraeg yn y papur newydd.
Roedd y fenter wedi beirniadu penderfyniad y Carmarthen Journal i gwtogi maint y dudalen Gymraeg i faint colofn, sy’n llai na hanner yr hyn oedd hi’n arfer bod.
Ond yn dilyn cyfarfod rhwng y mudiad a golygydd y Camarthern Journal ar 14 Chwefror, fe fydd y dudalen Gymraeg yn cael ei hail gyflwyno yn llawn o fewn y papur yn y rhifyn nesaf.
Anwybodaeth
Yn ôl Menter Iaith Gorllewin Sir Gar, sydd wedi darparu cynnwys y dudalen ers 10 mlynedd, cafodd y penderfyniad i leihau maint y dudalen ei wneud heb ymgynghori â nhw.
Roedd cadeirydd y fenter, Meirion Jones, yn credu mai anwybodaeth am sefyllfa’r Gymraeg oedd wrth wraidd y penderfyniad:
“Doedden nhw ddim yn sylweddoli gwerth y fenter oedd yn dipyn o siom ar y pryd, ond wedi eu goleuo nhw maen nhw nawr wedi ail benderfynu, fel petai, i gefnogi’r dudalen a bydd hi’n cael ei hail-lansio yn y rhifyn fydd yn cael ei gyhoeddi yfory,” meddai Meirion Jones ar y Post Cyntaf.
Ac fe fydd y Carmarthen Journal yn parhau i gynnwys deunydd Cymraeg arall o fewn y papur, sy’n “ail gadarnhau ei ymrwymiad i adlewyrchu natur ddwyieithog ardal ei chylchrediad.”