Meri Huws
Mae golwg360 wedi cael cadarnhad fod pob un o 45 o staff swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cael dewis gadael eu swyddi yn wirfoddol, er mwyn caniatáu i’r Comisiynydd lunio strwythur newydd.
Mae Meri Huws yn bwriadu creu strwythur “sydd yn fwy addas ar gyfer ymateb i swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011”.
Ond mae yna bryderon fod hyn yn golygu canolbwyntio’n fwy ar reoleiddio yn hytrach na hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith.
‘Lle gwag’
Dywedodd cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, fod bwlch ers i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gael ei ddiddymu yn 2012 a’i bod hi bellach yn amwys pwy sydd â chyfrifoldeb dros hybu’r Gymraeg.
“Mae’n amlwg yn gyfnod o ansefydlogrwydd o ran staff ac o ran safonau hefyd,” meddai wrth y BBC.
Ac fe ddywedodd Bethan Jones Parry, Llywydd y mudiad, ei bod yn gobeithio y bydd yr ail-strwythuro yn meithrin a datblygu’r iaith:
“Yn ôl yr hyn dwi’n ddeall, mater o ail strwythuro yw’r newid ac nid mater o ddiswyddo.
“Mae hwyluso a hyrwyddo’r iaith yn rhan annatod o unrhyw gynllun i feithrin a datblygu’r iaith ac mi fydda’ i, a gweddill aelodau Dyfodol, yn sicr yn dymuno ac yn disgwyl i’r agweddau yma barhau.”
Adolygu’r strwythur gwreiddiol
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg:
“Wrth i’r sefydliad ddatblygu ac wrth i bwerau statudol newydd ddod i rym, cred y Comisiynydd bod angen adolygu’r strwythur gwreiddiol, gan greu strwythur sydd yn fwy addas ar gyfer ymateb i swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
“Cyn bwrw mlaen gyda’r cynllun ailstrwythuro, mae’r Comisiynydd, yn dilyn trafodaeth gyda’r Undeb, wedi cyhoeddi cynllun ymadael gwirfoddol er mwyn galluogi’r rheiny sydd yn wirioneddol dymuno gadael cyflogaeth Comisiynydd y Gymraeg i wneud hynny lle bo’n ymarferol bosibl.”
Hyrwyddo yn lle rheoleiddio
Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas eisoes wedi dweud ei fod yn amau doethineb Plaid Cymru, tra mewn llywodraeth clymblaid gyda Llafur, wrth bwyso am sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio cyrff cyhoeddus.
Hyrwyddo’r iaith ddylai fod y nod, meddai, ac mae yntau yn gweld eisiau Bwrdd yr Iaith y bu’n Gadeirydd arno rhwng 1994 a 1999.