Sian James, AS Dwyrain Abertawe
Mae’r Aelod Seneddol Llafur Sian James wedi cyhoeddi na fydd hi’n sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd Sian James, AS Dwyrain Abertawe, ei bod hi’n gadael gwleidyddiaeth seneddol er mwyn dilyn “cyfleoedd eraill ac ymgyrchoedd eraill yng Nghymru.”
Cafodd ei hethol yn 2005 ac mae wedi ymgyrchu am reoleiddio gwelyau haul yn ystod ei chyfnod yn San Steffan.
Mae hefyd yn gyn gyfarwyddwr yr elusen Cymorth i Fenywod yng Nghymru.
Dywedodd: “Mae hi wedi bod yn fraint cael gwasanaethu pobl yn Nwyrain Abertawe ond mae ’na gyfyngiadau i’r hyn y gallwch chi ei wneud yn San Steffan.”
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio ehangu ar ei chynlluniau dros y misoedd nesaf.